Y stori orau ar DyffrynNantlle360 yn 2020: dewis y bobol

Cyfle i bobol Dyffryn Nantlle bleidleisio am eich hoff stori leol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mewn blwyddyn lle mae golygon cymaint ohonom wedi troi at ein milltir sgwâr, rydym wedi gweld cynnydd anhygoel yn y defnydd o’r gwefannau bro. Mae’r 7 gwasanaeth lleol-iawn wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o straeon, gwybodaeth a difyrrwch i gymaint o bobol eleni. Maent hefyd wedi bod yn gofnod o sut fu bywyd pobol a’n cymunedau yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf rhyfedd mewn cof.

Er gwaetha’r Covid – y canslo a’r diffyg dod ynghyd arferol – cyhoeddwyd dros 1230 o straeon bro yn 2020, ac erbyn hyn mae dros 430 o bobol leol wedi cyhoeddi stori ar eu platfform lleol.

I ddathlu hynny, bydd Bro360 yn cynnal seremoni wobrwyo ym mis Ionawr, lle byddwn yn cyhoeddi eich hoff straeon chi ar bob gwefan fro!

Rhestr fer DyffrynNantlle360

Dyma’r 6 stori fwyaf poblogaidd (yn ôl yr ystadegau) ar DyffrynNantlle360 eleni. Porwch trwyddynt, a phleidleisiwch trwy bwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod eich hoff stori.

  • Addasu i’r normal newydd yn Poblado Coffi – Sion Hywyn Griffiths

Addasu i’r normal newydd yn Poblado Coffi.

Sion Hywyn Griffiths

Agor caffi awyr agored yn Poblado coffi, i ail-gysylltu hefo pawb ar ol y clo mawr.

 

  • Capten newydd clwb Nantlle Vale – Begw Elain

 

  • Ceisio lleihau gwastraff bwyd ym Mhenygroes – Greta Fflur a Geraint
Geraint

Ceisio lleihau gwastraff bwyd ym Mhenygroes

greta

Cyfweliad i ddod i nabod Geraint- Swyddog Bwyd a Lles newydd Yr Orsaf

 

 

  • Derbyn grant dros hanner miliwn o bunnoedd i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y Dyffryn – Greta Fflur
GwyrddNi

Derbyn grant dros hanner miliwn o bunnoedd i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y Dyffryn

greta

Siop Griffiths, Penygroes yw un o’r partneriaid cymunedol sy’n rhan o’r prosiect cyffrous newydd.  

 

  • Sut effeithiodd Covid ar rai o chwaraewyr Nantlle Vale? – Begw Elain
994DEA73-7D12-4D13-8D8D-DA010F46D96C

Sut effeithiodd Covid-19 ar rhai o chwaraewyr tîm cyntaf CPD Nantlle Vale?

Begw Elain

“Dwi methu aros i tymor yma gychwyn oherwydd mae’n teimlo yn fwy broffesiynol.Mae Sion a Dan yn gweithio yn dda iawn efo’i gilydd, mae’r ffordd mae’r ddau yn siarad gyda ni’r chwaraewyr yn fwy bositif ac wedi dod a ni yn agosach fel tîm”-Ashley Owen

 

Felly, dyna’r 6 ddaeth i’r brig o ran yr ystadegau. Ond pa un sy’n dod i’r brig i chi?

Pleidleisiwch, trwy…

  1. mewngofnodi neu ymuno â’r wefan hon (creu cyfrif)
  2. mynd i’ch hoff stori
  3. pwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod y stori honno (neu hoffi’r fideo Facebook os dyna eich dewis)

Bydd eich hoff stori ar DyffrynNantlle360 yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig ddiwedd mis Ionawr.