Beth ydy DyffrynNantlle360?

Gwasanaeth straeon lleol gan bobol leol ydy DyffrynNantlle360, ac mae’n rhan o gynllun Bro360 gan gwmni Golwg.

Crëwyd y wefan gyda chymdogaeth Dyffryn Nantlle i fod yn fan canolog ar-lein ar gyfer rhannu a thrafod llwyddiannau, dyheadau, a bwrlwm y fro.

Mae DyffrynNantlle360 yn adlewyrchu ac yn hybu diwylliant y fro trwy gyfrwng newyddion, straeon a thrafodaeth.

Gall pawb sy’n byw yn y fro greu cyfrif ar y wefan (Ymuno) a chyhoeddi stori neu hyrwyddo digwyddiad. Dyma ein lle ni, pobol y fro, i roi sylw i bopeth sy’n bwysig i ni. Dyma pa mor hawdd ydy hi i greu stori.

Tîm o wirfoddolwyr sy’n ysgogi pobol i greu ar DyffrynNantlle360, ac sy’n rhedeg y cyfrifon cymdeithasol. Os hoffech ymuno â’r criw i gynnig help llaw, cofiwch bod croeso i chi gysylltu.

Dyma ragor o gwestiynau cyffredin am DyffrynNantlle360 a gwefannau Bro360.