Addasu i’r normal newydd yn Poblado Coffi.

Agor caffi awyr agored yn Poblado coffi, i ail-gysylltu hefo pawb ar ol y clo mawr.

Sion Hywyn Griffiths
gan Sion Hywyn Griffiths

Ar gychwyn mis Mehefin, pan oedd golau I’w weld ar ddiwedd twnal y clo mawr, gafo ni sgwrs yma ym Mhoblado coffi I gymeryd stoc a chynllunio ymlaen.

Trowyd ein busnas ni yn un manwerthu ar-lein dros nos ar gychwyn y pandemig, ac roedd lleoliad y rhosty a maint y tim yn galluogi un ohonom weithio’n ddiogel yma drwy gydol y cyfnod. Buom ni’n lwcus dros ben am y rhesymau yma, gan ystyried y ffaith fod gymaint o fusnesi wedi gorfod cau’n gyfan gwbl yn sgil y cyfyngderau. Rydym yn gwerthfawrogi’r lwc y cawsom ni yn hynnu o beth, ac y gefnogaeth gan ein holl gwsmeriaid a archebodd eu coffi ar-lein. Ond erbyn diwadd y cyfnod clo roeddem yn awyddus iawn I ail gysylltu wyneb I wyneb hefo pawb unwaith eto.

Felly, penderfynnom ni agor y rhosty I’r cyhoedd ar Dyddiau Sadwrn o’r 4ydd o Orffenaf ymlaen I werthu cacennau a choffi, I’w mwynhau yn yr awyr agored (os oedd y tywydd yn caniatau), yn ogystal a rhoi cyfle I bobl ddod I nol eu cyflenwad coffi’n ffres o’r man a rhostiwyd.

Mae’r syniad wedi mynd o nerth I nerth wrth I fwy o bobl glywed amdano ni, ac rydym bellach yn cynnal digwyddiadau ychwanegol yn ystod y diwrnod. Mae Ceri Lloyd o gwmni ioga ar-lein SAIB wedi bod digon caredig I gynnal sesiynnau yn yr awyr agored am ddim yma, sydd wedi denu pobl I Nantlle o’r dyffryn ar cyffiniau. Rydym hefyd wedi dechrau clwb rhedeg ‘Plodwyr Poblado’ fydd yn cyfarfod bob bore Sadwrn I redeg o amgylch y chwarel mewn grwp.

Ryda’ ni’n siwr eich bod chi, fel y ni, wedi teimlo’r angen am gyfleuoedd i gymdeithasu’n ddiogel ar ol cyfnod ynysig tu hwnt. Roeddem wedi bwriadu gwneud rhywbeth fel hyn ers tro ond wedi poeni byddai anhysbelldod Nantlle wedi gweithio yn ein herbyn. Ond pan laciodd y cyfyngderau a gwelsom yr awch amdano, roedd y lleoliad yn gweddu’n berffaith.

Hoffwn ymestyn croeso I bawb ddod draw os mai ychydig o ymarfer corff, coffi ffres a chacen ar fora Sadwrn yn apelio. Mae’r clwb rhedeg yn cyfarfod am 9 a’r ioga am 11 (ond cadewch lygad ar ein gwefannau cymdeithasol am unrhyw newidiadau). Ond os nad ydy’r rhain I chi, siawns fod golygfeydd godidog o’r llyn a’r mynyddoedd yn ogystal ag amryw lwybrau cerdded yn ddigon I’ch denu chi.

Rydym yn wiliadwrus iawn o’m oblygiadau ni I gadw pawb yn ddiogel ac hefyd yn ddiolchgar I bawb sydd wedi bod eisioes ac wedi parchu’r rheolau ymbellhau cymdeithasol a iechyd.

Efallai fod rhai ohonoch yn gwybod mai cyfiethiad o air Sbaeneg ydy Poblado, sy’n golygu’n fras; cymuned neu lle I fyw. Yn wir, mae cynnal y diwrnodau yma wedi teimlo fel cymuned fach yn ffurfio o amgylch ein cwmni bach ni, o bobl hoffai gychwyn eu boreua Sadwrn ym mysg hen ffrindiau a rhai newydd mewn ffordd ychydig yn wahanol.

I wybod mwy am be ‘da ni yn ei wneud ewch i’n gwefan ni, ac ein mannau cyfryngau cymdeithasol. A diolch eto i bawb am eich cefnogaeth.