Ceisio lleihau gwastraff bwyd ym Mhenygroes

Cyfweliad i ddod i nabod Geraint- Swyddog Bwyd a Lles newydd Yr Orsaf

greta
gan greta
Geraint

Swyddog Bwyd a Lles Yr Orsaf

Rho ‘chydig o dy hanes i ni?

Rwyf wedi byw ym mhentre Penygroes am rhan fwyaf o’m hoes. Mae pawb yn fy adnabod trwy ‘Nain a Taid’ sef Arfon a Valmai. Mi wnes i basio arholiadau TGAU a Level-A yn Ysgol Dyffryn Nantlle ac roeddwn yn gweithio yn ffatri Northwood yn y Stad Ddiwydiannol am un blynedd ar bymtheg.. 

Rwyf wedi priodi ers dwy mlynedd ar bymtheg a mae gennyf dri plentyn, mae’r ddau hynaf yn mynychu Ysgol Dyffryn Nantlle ac mae’r fengaf yn saith mis oed. 

Sut wyt ti’n hoffi treulio amser tu allan i’r gwaith?

Rwyf yn hoffi cerdded gyda fy nheulu. Does dim byd gwell na bwyta picnic mewn cae, ynghanol nunlle a wedyn mynd ar goll mewn goedwig. 

Beth yw dy swydd newydd, a beth fydd dy gyfrifoldebau?

Rwyf wedi gael fy mhenodi fel Swyddog Bwyd a Lles. Rwyf yn gyfrifol a 3 prosiect: 

1. Prosiect ailddosbarthu bwyd – Rwyf yn nol bwyd wast gan COOP pob nos ac yn ffeindio ffyrdd i’w ddefnyddio.

2. Prosiect gardd wyllt – I wneud defnydd o’r tir wast sydd tu ol i Trem Y Wyddfa a’i droi yn ardd wyllt.

3. Prosiect rhandiroedd – I greu rhandiroedd yn y pentref.

Beth yw’r peth gorau am yr ardal?

I mi, y peth gorau am yr ardal yw y lleoliad. Mae gan Benygroes popeth o fewn ychydig o filltiroedd: 

• Mynyddoedd (Cwm Silyn & Cwm Dilyn)

• Glan y Mor (Dinas Dinlle)

• Coedwig (Glynllifon)

• Siopau (Caernarfon & Porthmadog)

Pa mor bwysig yw gwaith cymunedol yn dy farn di?

Yn fy marn i mae Penygroes yn ardal ddifreintiedig felly mae unrhyw gymorth i’r gymuned yn andros o bwysig. Rwyf yn falch gael rhoi cymorth i’r ysgolion a’r busnesi lleol gan obeithio gwneud rhywfaint o wahaniaeth bositif. 

 

Beth yw’r peth mwya heriol am gyfnod Covid? 

O ran y swydd, mae’r rheolau Covid yn cyfyngu y nifer o wirfoddolwyr sy’n bosib gael mewn un safle oherwydd y rheolau pellter cymdeithasol. Mae hyn yn golygu fydd rhai tasgau yn cymeryd mwy o amser i’w gwblhau. 

Yn bersonol i mi, mae gennyf berthnasau agos ym Manceinion a ni fedrai i’w gweld nhw mor aml a fyswn yn hoffi. 

Beth ti’n gobeithio ei gyflawni fel rhan o dy swydd yn Nyffryn Nantlle? 

Mae wast bwyd yn broblem enfawr dwry’r Ddeyrnas Unedig. Mae cwmniau yn taflu i ffwrdd gwerth miloedd o bunnoedd o fwyd bob wythnos. Rwyf i yn ceisio lleihau wast yn bentref Benygroes a’i ailddosbarthu i’r pobl sydd wir angen. 

Rwyf yn gobeithio rhoi cynlluniau yn ei lle a dechrau gwaith ar greu gardd wyllt yn y pentref er mwyn i’r gymuned gyfan fwynhau darn o dir sydd heb gael ei ddefnyddio ers ugain mlynedd. 

Buaswn yn hoffi os fyswn wedi gallu ffurfio cymdeithas rhandiroedd ac wedi rhoi cynlluniau yn ei le i greu’r rhandiroedd. 

Pob hwyl yn dy swydd newydd Geraint!