Sut effeithiodd Covid-19 ar rhai o chwaraewyr tîm cyntaf CPD Nantlle Vale?

“Dwi methu aros i tymor yma gychwyn oherwydd mae’n teimlo yn fwy broffesiynol.Mae Sion a Dan yn gweithio yn dda iawn efo’i gilydd, mae’r ffordd mae’r ddau yn siarad gyda ni’r chwaraewyr yn fwy bositif ac wedi dod a ni yn agosach fel tîm”-Ashley Owen

Begw Elain
gan Begw Elain
994DEA73-7D12-4D13-8D8D-DA010F46D96C

Sut effeithiodd covid-19 ar rhai o chwaraewyr tîm cyntaf CPD Nantlle Vale?

 

“Dwi methu aros i tymor yma gychwyn oherwydd mae’n teimlo yn fwy broffesiynol.Mae Sion a Dan yn gweithio yn dda iawn efo’i gilydd, mae’r ffordd mae’r ddau yn siarad gyda ni’r chwaraewyr yn fwy bositif ac wedi dod a ni yn agosach fel tîm”-Ashley Owen

 

Yn sicr mae eleni wedi bod yn anodd iawn i bawb ond un o bethau sydd ddim yn cael ei drafod yw sut effeithiodd peidio gallu chwarae pêl-droed ar y chwaraewyr?

 

13eg o Fawrth yng nghanol y tymor pêl-droed cyhoeddwyd Cymdeithas Pêl-droed Cymru fod rhaid i wahardd unrhyw weithgaredd sydd yn ymwneud gyda phêl-droed am dair wythnos oherwydd yr amgylchiadau covid-19..Aeth y dair wythnos ’mlaen i saith mis heb chwarae ru’n gêm. Yng nghanol mis Gorffennaf dychwelwyd yr hogiau yn nôl i gae Fêl ar gyfer y sesiynau hyfforddi ond bellach rydym yn cyrraedd diwedd mis Tachwedd a does dim dyddiad wedi cael ei osod i bryd cawn ddechrau’r tymor.

Ar y funud mae gemau cyfeillgar yn cael mynd yn ei blaenau tu ôl i ddrysau caeedig yn unig ond mae yno ofnau mawr tuag at ddyfodol o bêl-droed ar lawr gwlad yma yng Nghymru.Gobeithio cawn ddechrau’r tymor yn fuan iawn cyn i bethau waethygu a galluogi mwy o broblemau yn y pendraw.

 

Dyma gyfweliad byr gyda tri o chwaraewyr tîm cyntaf CPD Nantlle Vale ar sut effeithiodd y cyfnod clo arnyn nhw.

 

Sut oedd y cyfnod clo heb bêl-droed? 

 

Yn amlwg effeithiodd cyfnod clo pawb yn wahanol felly dyma ymatebion rhai o ein chwaraewyr.

 

“Oedd y cyfnod clo wedi bod yn anodd iawn i fi yn bersonol o’r ochr pêl-droed a chymdeithasu gyda’r hogiau. Mynd o hyfforddi dwy waith yr wythnos a gêm ar y penwythnos i ddim byd o gwbl am fisoedd ond o leiaf ar yr ochr ffitrwydd roedd y tîm rheoli wedi gwneud cynllun ffitrwydd I ni er mwyn sicrhau nad oedd neb yn diogi”-Mathew Davies

 

“Wnaeth y cyfnod clo ddim effeithio arna i gymaint â hynny cymharu â rhai pobl.Roeddwn dal yn gallu mynd i’r gwaith.Ar rhan pêl-droed a dod i Benygroes ar gyfer y sesiynau’r hyfforddi a gemau, roeddwn yn colli hynna yn ofnadwy, effeithiodd ar fy lefelau ffitrwyddyn gan nad oedd gen i rhywbeth weithio arno fel y gemau cyn-dymor”-Ashley Owen

 

“Roedd hi’n gyfnod mor ddiflas a rhyfedd heb bêl-droed, roeddwn yn methu’r prynhawniau Sadwrn gyda’r hogiau”-Gethin Roberts

 

Sut brofiad yw hi chwarae gemau cyfeillgar gyda ddim cefnogwyr?

 

“Yn bersonol dwi ddim yn sylwi lot yn ystod y gêm, ond dwi’n teimlo ei fod yn cael effaith ar yr awyrgylch yn ystod yr amser hyfforddi cyn y gemau, mae’n rhyfedd iawn edrych rownd y cae a gweld y seddi yn wag a neb yno’n gwylio.”-Gethin Roberts 

 

“Mae hi wedi bod yn rhyfedd iawn chwarae heb gefnogwyr, er tydi ein cynghrair ni ddim yn cael llawer beth bynnag ond mae’r 100-150 sydd yn dod i wylio yn gwneud gwahaniaeth mawr i hogiau mewn gemau.Mae rhai yno pob wythnos yn gweiddi ,cefnogi’r hogiau, os mae hi’n braf, bwrw,eira mae’n nhw yno pob wythnos! Os ydi pethau ddim yn mynd yn grêt ar y cae,mae nhw pob tro fel yr ‘12th’ man”-Mathew Davies

 

“Mae chwarae heb cefnogwyr yn teimlo fel rydym yn chwarae mewn gêm yn ystod sesiwn hyfforddi, does gennym ni ddim y cymorth lawn ein cefnogwyr yn ystod y gemau felly mae’r gemau yn gallu fod yn ddiflas ofnadwy heb ein cefnogwyr yn gweiddi ac yn ein hysbrydoli i ddyfalbarhau yn ystod y gemau.”-Ashley Owen

 

Beth wyt ti yn edrych mlaen fwyaf gyda CPD Nantlle Vale?

 

“Edrych yn ‘mlaen i chwarae yn y 3ydd adran newydd o’r pyramid gan Gymdeithas Pêl-droed ,wedi bod yn Fêl ers sawl tymor rwan a phob tymor dwi’n chwarae ar yr un caeau, oni bai am un neu ddau.Felly tymor yma fydd o’n hollol wahanol gyda gymaint o dimau gwahanol yn y cynghrair ,chwarae yn erbyn chwaraewyr gwell, caeau gwell.. Doedd lot ddim yn cefnogi’r syniad FAW o newid system yr ‘pyramid’ a gael gwared â’r gynghrair leol ond dwi wedi cefnogi hyn o’r cychwyn.Mae’r system newydd yn gwella bêl-droed yn gyfan gwbl yma yng Nghymru a rhoi’r timau lleol ar y ‘map’ yn hytrach ‘na ond ein tîm cenedlaethol!” – Mathew Davies 

 

“Edrych ymlaen at gael dechrau’r tymor fwy na dim, mae’r ‘pre-season’ wedi bod yn rhy hir. Hefyd dwi’n edrych ymlaen at y ddarbi leol yn erbyn Porthmadog, mae tad Sara yn gefnogwr mawr Porthmadog, felly sa hi’n dda gallu cael buddugoliaeth drostynt i mi gael tynnu ei goes”-Gethin Roberts

 

“Dwi methu aros i’r tymor gychwyn oherwydd mae’n teimlo yn fwy broffesiynol.Mae Sion a Dan yn gweithio yn dda iawn efo’i gilydd ac mae’r ffordd mae’r ddau yn siarad gyda ni’r chwaraewyr yn fwy positif ac wedi dod a ni yn agosach fel tîm.Mi fydd hi’n neis chwarae yn erbyn timau gwahanol a chaeau gwell.Felly dim ond gobeithio am riw fath o normalrwydd cyn bo’ hir.Mae bod gyda ddim pêl-droed yn ddigalon ,mae’n effeithio fawr ar iechyd meddwl pobl oherwydd pêl-droed yw popeth i rai.” -Ashley Owen

 

Diolch yn fawr i chi tri am rannu eich profiadau cyfnod clo mor onest.Gobeithio cawn fynd nôl i gaeau i’ch cefnogi yn fuan iawn.Pob lwc am y gemau i’w ddod.

 

Cofiwch ddilyn ni ar ein cyfryngau cymdeithasol @NantlleValeFC -Twitter,Facebook,Instagram

 

Begw Elain-Swyddog y Wasg-CPD Nantlle Vale