Apelio ar bobol i gadw draw o byllau chwareli fel Chwarel Dorothea

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd wedi pwysleisio’r perygl o nofio mewn pyllau chwareli.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd wedi pwysleisio’r perygl o nofio mewn pyllau chwareli fel Chwarel Dorothea yn ystod y tywydd braf.

Daw’r rhybudd yn dilyn digwyddiadau diweddar yn Nyffryn Nantlle a Llanberis wrth i bobol dresmasu a neidio oddi ar y clogwyni i mewn i’r dŵr – gan hefyd fynd yn erbyn cyfyngiadau COVID-19.

Eglurodd Heddlu Gogledd Cymru fod dŵr pyllau fel hyn yn arbennig o oer ac mae’r pyllau’n llawn peryglon cudd sy’n gallu achosi perygl difrifol.

“Dros y blynyddoedd diweddar bu sawl trychineb yn yr ardal ar ôl i bobol fynd i drafferthion ar ôl mynd i mewn i byllau mewn chwareli,” meddai’r Uwch-arolygydd Richie Green o Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae’n demtasiwn i neidio i mewn i’r pwll neu’r llyn agosaf ar ddiwrnod poeth neu i nofio yn nyfroedd hen chwarel, mae’r pyllau yn ddwfn iawn – hyd at 60 metr o ddyfnder – a gall dod allan fod yn anodd oherwydd yr ochrau serth.

“Yn ogystal â’r peryglon sy’n gysylltiedig â nofio mewn llefydd anghysbell, mae neidio o greigiau hefyd yn rhoi pobol mewn perygl.

“Mae nofio mewn chwareli gwag yn beryglus iawn ac rwy’n ymbilio ar blant a phobol ifanc ac unrhyw un arall i gadw draw.”

Peryglon cudd

Ategwyd yr un neges gan y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi: “Mae’r pyllau chwarel sydd wedi eu defnyddio gan dresmaswyr i nofio ynddynt yn cynnwys nifer o beryglon allai arwain at anafiadau difrifol, neu waeth – yn cynnwys malurion tanddwr a darnau llechi miniog.

“Dylid cofio hefyd bod tymheredd y dŵr yn y pyllau yn beryglus o oer, hyd yn oed yn ystod cyfnodau hir o dywydd poeth.

“Rydym hefyd yn apelio i rieni i sicrhau fod  eu plant yn ymwybodol o’r peryglon o dresmasu ar gyn-safleoedd diwydiannol ac i osgoi nofio mewn unrhyw byllau neu lynnoedd all fod â pheryglon cudd megis cerrynt tanddwr neu ddŵr tyfn dirybudd.”

Tresmasu

Mae’r cyhoedd hefyd yn cael eu hatgoffa gan yr Heddlu bod chwareli yn eiddo preifat a bod unrhyw un sy’n nofio neu yn dringo’r creigiau yn tresmasu.

“Er bod y tywydd yn boeth mae’r dŵr yn rhewllyd ac yn llawn peryglon fel sbwriel, chwyn a brwyn nad ydyn nhw o reidrwydd i’w gweld ar yr wyneb,” meddai’r Uwch-arolygydd Green.

“Mae’r dŵr yn gallu bod yn ddwfn iawn a gall nofwyr fynd allan o’u dyfnder yn hawdd.

“Os ydych yn meddwl am nofio mewn llefydd o’r fath, meddyliwch eto, ystyriwch y peryglon a pheidiwch â thresmasu.

“Rydych yn rhoi eich hun mewn peryg ac, o bosib, bobol eraill a fydd yn gorfod dod i’ch achub.

“Rydym yn annog rhieni a gofalwyr i ddysgu eu plant am beryglon tresmasu ac i osgoi nofio mewn pyllau a llynnoedd ac i fod yn ymwybodol o’r hyn mae eu plant yn ei wneud yr haf hwn.”

Marchnad Lleu

10:00, 18 Mai (Roedd ‘na ddigon i wneud yn y Farchnad mis Ebrill rhwng y stondinau amrywiol – caws gafr, llysiau, cacennau, crefftau a phlanhigion. Daeth Tyddyn Teg o Fethel i werthu llysiau a rhannu gwybodaeth am eu cynllun Bocsus Llysiau. Mae sawl maint ar gael a gellir archebu a mi fydd yn bosib eu codi o’r Farchnad. Yn y Caffi roedd cyfle i gael brecwast o roliau bacwn neu wy ac yna cinio o chili llysiau, pizza cartref hefo madarch neu lysiau – a blasus oeddent ‘fyd. Gwerthwyd sawl cacen hefo paneidiau o de a choffi. Bwrdd rhannu gwybodaeth mis yma oedd ‘Gofyn i Mi’, o dan ofal Sian sy’n gweithio i fudiad Cymorth i Ferched. Roedd ganddi bosteri, cardiau a chyfle i rannu gwybodaeth ar pa gymorth sydd ar gael i oresgyn trais yn y cartref. Diolch iddi am ddod atom. Daeth criw at eu gilydd i stafell Yr Aelwyd i ddysgu dawnsio Salsa hefo Josie, rhaid oedd symud y traed gan gyfri a chofio pob math o symudiadau (sôn am chwerthin!) Mae sawl un o’r criw am fynd i Glwb Salsa Bangor gan eu bod wedi joiio cymaint. Stondin y Mis oedd prosiect Gardd Nant sydd wedi cychwyn yn Nhalysarn. Cafwyd cyfle i drafod y prosiect tra’n prynu tombola, llyfrau a chydig o waith llaw. Gobeithio eu bod wedi cael lot o bres ar gyfer eu cynlluniau. Yn y neuadd fawr cynhaliwyd cystadleuaeth plannu hadau blodau haul a bydd yn cael ei feirniadu fis Medi. Rhannwyd taflen i ddangos pwysigrwydd y planhigyn i ni. Hefyd yn y neuadd roedd Gwyneth wedi gadael ei bwrdd gwerthu – Bocssebon, i ddangos sut i wneud papur yn defnyddio papur wedi’i falu’n fân, dail a hâd a dwr. Pawb wedi mwynhau ac yn browd iawn o’u papur. Diddorol iawn wir. Diolch i’r stondinwyr am ddod atom ac i bawb am gefnogi eich marchnad leol.m ddim)

Taith Gerdded Llyn y Gadair

18:00, 13 Mehefin (Am ddim neu £1 am drafnidiaeth i Rhyd Ddu)