Lle mae eich hoff lle?

Prosiect i fapio Dyffryn Nantlle

gan Ben Gregory

Sgennych chi stori i rannu am Ddyffryn Nantlle? Lle mae eich hoff lle yn yr ardal? Sut mae pethau wedi newid yn ystod eich bywyd?

Mae’r Orsaf yn gweithio ar brosiect i gofnodi beth mae trigolion yn meddwl am y dyffryn. Mae’n rhan o’r gwaith i gefnogi sefydlu Hwb Treftadaeth a Chelf yn yr ardal. Mae’r Hwb yn cyd-fynd efo denodiad Statws Treftadaeth y Byd i’r 6 ardal llechi yng Ngwynedd.

Bydd cyfle i chi rhanni eich hanes, a rhoi eich syniadau ymlaen ar gyfer yr hwb, yn ystod yr wythnos nesaf. Mae 4 sesiwn yn Yr Orsaf, rhwng 6.00 a 8.00 nos Lun i Nos Iau. Mae’r sesiynau yn cael ei arwain gan Gethin Roberts a Steffan Gwynn. Ar ol casglu’r gwybodath bydd y ddau yn gweithio efo’r artist Hannah Cash i greu ’map dwfn’ o’r ardal.

Dewch draw i gael sgwrs, panad a chacen. Bydd cyfle hefyd i weld map ocsiwn Stad Bryncir o 1895. Mae’r plotiau a gwerthiant wedi siapio sut mae Penygroes wedi datblygu tan heddiw.

 

Dewch draw ar un o’n nosweithiau yr wythnos nesaf yn Yr Orsaf (nos Lun i Nos Iau, 6.00 tan 8.00) i gymryd rhan. Panad a chacen i bawb.