Gŵyl Ddrama ac Eisteddfod Y Groeslon

Adroddiad ar 2 gyfarfod pentref

Nerys Evans
gan Nerys Evans
IMG-20240427-WA0005-2
IMG-20240505-WA0011-2

Nos Iau a nos Wener 25ain a’r 26ain o Ebrill, cynhaliwyd GŴYL DDRAMA Y GROESLON gyda Marlyn Samuel o Ynys Môn yn beirniadu. Perfformiwyd pum drama dros y ddwy noson gan bedwar cwmni drama sydd wedi bod yn ffyddlon i’r Ŵyl ers blynyddoedd bellach. Ar y nos Iau y cyntaf ar y llwyfan oedd Cwmni Drama Brynrhos gyda chynhyrchiad o’r ddrama ‘Pa John’ gan Wil Sam. Cafwyd dwy ddrama gan Gwmni Drama Licris Olsorts. Y gyntaf oedd ‘Apocalyps’ gan Emyr Edwards ac yna ‘Yng Nghesail y Cwm’ gan Sion Pennant. Y noson ganlynnol, y cwmni cyntaf i berfformio oedd Cwmni’r Plant Afradlon gyda drama newydd dan y teitl ‘Paned o De?’ gan Alun Ffred Ffred Jones. Cwmni Drama Dinas Mawddwy oedd yn cloi’r noson gyda’r ddrama ‘Pwy yw dy Gymydog?’ gan Ifan Gruffydd.

Cwmni Drama Licris Olsorts gipiodd Dlws Coffa Dr John Gwilym Jones a £100 am eu perfformiad o’r ddrama ‘Yng Nghesail y Cwm’ a gynhyrchwyd gan Sion Pennant. Cwmni Drama Brynrhos ddaeth yn ail gan ennill £75 a daeth Cwmni’r Plant Afradlon a Chwmni Drama Dinas Mawddwy yn gydradd drydydd. Roedd yn noson wych i Gwmni Drama Licris Olsorts gan i Gwenllian King ennill y Tlws am y Perfformiad Unigol Gorau hefyd – gan wneud y daith o Dalybont, Aberystwyth, ar ôl diwrnod o waith, yn un gwerth chweil.

Drannoeth ar y dydd Sadwrn, cynhaliwyd Eisteddfod y Groeslon gan barhau gyda phrysurdeb y pentref. Einir Wyn Jones o Bwllheli oedd y beirniad Cerdd a Cherdd Dant ac Anni Llŷn o Garnfadryn oedd yn beirniadu’r Llefaru, Llên a Thlws yr Ifanc. Anwen Williams o’r pentref oedd y beirniad Celf a Non Llywelyn o Saron, oedd beirniad y Dawnsio. Bu cystadlu brŵd drwy gydol y pnawn gyda Cadi Evans o Ysgol Dyffryn Nantlle yn cipio Tlws Yr Ifanc er côf am Eirug Wyn.

Dymuna’r pwyllgor ddiolch am y gefnogaeth i’r Ŵyl Ddrama a’r Eisteddfod gan barhau’r traddodiad yn y pentref.