95 milltir i elusen Ataxia UK

Wel dyna chi daith gerdded anhygoel …

gan Llio Elenid
Taith-Gerdded-Sarah-Parry

Mi wnaeth Sarah Parry (Groesffordd, Groeslon) benderfynu codi arian i elusen sydd ddim mor gyfarwydd i bawb, Ataxia UK, drwy gerdded o Groesffordd, Groeslon i gartref y bachgen bach yn y Wirral sydd wedi cael diagnosis o gyflwr Friedreich’s ataxia – cyfanswm o 95 milltir!

Mae Oliver, gor-nai i Sarah, yn saith oed, a chwe mis yn ôl yn fachgen bach llawn egni, gwen ar ei wyneb bob tro ac yn mwynhau bywyd, yn hoffi rhedeg a chwarae efo’i frawd bach Charlie, y ddau ddireidus yn dipyn o ffrindiau. Ond erbyn hyn mae iechyd Oliver wedi dirywio yn sydyn a chwmwl mawr du yn hofran dros y teulu bach, prin y gall Oliver gerdded na siarad chwaith ond er yr holl rwystradau mae’r wên ddireidus yn dal yna.

Penderfynodd Sarah fod rhaid gwneud rhywbeth arbennig i godi arian er mwyn galluogi gwaith ymchwil a chodi sylw at y cyflwr trist hwn. Nid oedd llawer o bobol yng ngwaith Sarah (gwasanaeth ambiwlans) wedi clywed am Friedreich’s ataxia felly roedd Sarah Parry am weiddi ar dop ei llais i dynnu sylw pawb at hyn.

Mi gychwynnodd ei thaith ar fore dydd Mawrth yn mis Ebrill, taith oedd yn mynd i gymryd chwe diwrnod i gyd, mynd drwy Caernarfon, Bangor, draw am Fae Colwyn, Pensarn Ffynnongroyw, Shotton, Glannau Dyfrdwy ac ar hyd y Wirral Way i bentref Thursaston. Roedd yr elfennau yn ei herbyn o’r cychwyn, gwynt a glaw cryf ond roedd Sarah yn benderfynol doedd dim yn mynd i’w hatal rhag cwblhau’r daith enfawr.

Mi gafodd gwmni ffrindia a theulu ar rannau helaeth o’r daith a llawer o bobol yn stopio i siarad a holi a rhoi ceiniog neu ddwy yn y bocs arian, roedd pawb yn andros o ffeind drwy gydol y daith.

Ar ôl chwe diwrnod caled fe gyrhaeddont bentref Thursaston ar y Wirral a chroesi’r llinell derfyn, wedi blino’n lân ond yn llawn balchder, ac i goroni’r daith, ar y filltir olaf roedd yna rywun pwysig dros ben wedi dod i ymuno â’r criw sef Oliver ei hun, ac fe gafodd y fraint o gario’r faner dros y llinell derfyn, ac roedd y wên yn dweud y cwbl er ei anawsterau.

Mae’r arian yn dal i ddod i mewn, pawb wedi bod yn haelionus dros ben ac os oes unrhyw un yn meddwl y buasent yn hoffi cyfrannu rhywfaint bach yna mae yna dudalen GoFundMe neu groeso i chi ffonio Groesffordd, Groeslon ar 01286 830150. Dwi’n siŵr y bysa’r teulu bach yn ddiolchgar dros ben, diolch yn fawr, a da iawn i Sarah a’r tîm am gwblhau’r daith gerdded anhygoel.