I ble’r awn ni efo Nia?

Mynd a’r daith droed

Nia Jones
gan Nia Jones

Mynd ar droed.

Helo bawb. Nia Tir Bach ydw i, ac un o fy amryw ddiddordeba’ ydi cerdded. Fin nos neu ar benwythnos, mi fyddai wrth fy modd allan yn yr awyr iach. Wel, mae’r dydd wedi ymestyn a’r tywydd yn altro, felly crwydro amdani.

Weithia’ mi fyddai’n mynd ar ben fy hun, dro arall yng nghwmni’r hogia’ neu griw ffrindia’. Wir, does ’na ddim byd gwell ar ôl diwrnod o waith na mynd am dro.

Ar y daith ddiweddara’ mi ddaru ni fel criw o ffrindia’ gyfarfod yn Y Fron ac wedyn cerdded i gyfeiriad Moel Tryfan.  Bobl bach roedd hi’n braf a’r golygfeydd yn fendigedig.

I ble fyddai’n mynd nesa’? Wel, dilynwch y daith, yma ar eich gwefan fro DyffrynNantlle 360.

 

Dweud eich dweud