Trwy ffenestri plant Ysgol Nebo

Plant Ysgol Nebo sy’n rhannu’r hyn sydd i’w gweld drwy eu ffenestri, ac yn darllen rhai o gerddi a geiriau Silyn a Mathonwy. Rhan o ŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’.

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen

Croeso i drydydd digwyddiad gŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’.

Mae’r fideo arbennig yma yn rhoi cip i ni ar y gwaith mae disgyblion Ysgol Nebo, hen ysgol Silyn a Mathonwy, wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar wrth ddysgu am Frynllidiart a’r ddau brifardd o’u bro.

Un o’r gweithgareddau yn y Pecyn Addysg oedd disgrifio’n greadigol yr hyn sydd i’w gweld drwy eu ffenestri.

Dyma fyddai’r olygfa i Silyn a Mathonwy drwy ffenestr Brynllidiart heddiw:

“Tu hwnt i Ddinas Dinlle tua’r gorllewin…” Yr olygfa drwy ffenestr Brynllidiart heddiw

Gwyliwch y fideo i weld gwaith creadigol gwych plant Ysgol Nebo heddiw.

 

Yn gefndir i’r lluniau a’r disgrifiadau rydym ni’n clywed y plant yn darllen rhai o gerddi a geiriau Silyn a Mathonwy. Byddai’r ddau wrth eu boddau yn clywed plant Nebo heddiw yn darllen eu gwaith mor gampus.

Roedd Silyn yn ddisgybl yn Ysgol Nebo yn y 1870au a’r 1880au, gyda Mathonwy yno rhwng tua 1908-1913, a’r ddau yn cerdded bron i 3 milltir o’u cartref ym Mrynllidiart.

Mathonwy yn Ysgol Nebo

Mae Mathonwy yn disgrifio ei gyfnod yn yr ysgol yn fanwl iawn yn ei ddarlith Bywyd yr Ucheldir, gan gynnwys y sefyllfa amser cinio:

“Yr adeg honno, brechdan gig a phisin o gacen a photelaid o lefrith, ac afal efallai, fyddai yn y bag ysgol at ganol dydd. Os byddech wedi gwlychu, efallai y caech sefyll o flaen tân y clasrwm i sychu nes y byddai’r mwg yn codi oddi wrth eich dillad ac yn arogldarthu dros y lle.”

Fe gyfansoddodd englyn i ddathlu canmlwyddiant yr ysgol yn 1973:

YSGOL Y MYNYDD

(sef Ysgol Nebo, Arfon, yn gant oed 1973)

Cofiaf, fel llawer cyfoed, – ei haddysg

Yn nyddiau ieuengoed;

Ar hon sy’n herio henoed,

Gwened haul hyd ddeugant oed.

 

Mae modd i chi efelychu’r daith o Frynllidiart i Nebo ac yn ôl drwy ddilyn y daith gerdded ar ein gwefan newydd. Cliciwch yma i ddarllen mwy: Cerdd·ed Dyffryn Nantlle – DyffrynNantlle360

 

Hefyd:

Dadorchuddio’r Plac Coffa: Plac Coffa Brynllidiart – DyffrynNantlle360

Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl i’w cael yn y straeon hyn: Yn ôl i Frynllidiart – DyffrynNantlle360; Nôl i’r ysgol – i ddysgu am arwyr lleol? – DyffrynNantlle360 a Amserlen: Yn ôl i Frynllidiart – DyffrynNantlle360

Gellid hefyd wrando ar Angharad Tomos a Ffion Eluned Owen yn siarad ar raglen Dei Tomos (24.03.21) yma: Dei Tomos – Cofio dau brifardd a aned yn yr un bwthyn – BBC Sounds

Roedd eitem ar raglen Heno S4C nos Iau 25.03.21: Clic | Heno | 25 Mawrth 2021 (s4c.cymru)