Amserlen: Yn ôl i Frynllidiart

Edrych ymlaen at ŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’ fydd yn cael ei chynnal ddydd Sul yma, 28 Mawrth ar DyffrynNantlle360 a Zoom.

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen

Ar drothwy 150 mlynedd ers geni’r prifardd a’r sosialydd R. ‘Silyn’ Roberts ym Mrynllidiart, Cwm Silyn, dyma gyhoeddi’r amserlen ar gyfer gŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’, a gynhelir yfory, dydd Sul, 28 Mawrth 2021, i gofio cyfraniad Silyn a’i nai, y prifardd a’r newyddiadurwr Mathonwy Hughes.

 

Rhyddhau fideos ar DyffrynNantlle360

Bydd 3 fideo yn cael eu rhyddhau ar wefan DyffrynNantlle360 yn ystod y diwrnod:

11yb: Dadorchuddio Plac Coffa

Rydym ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld y llechen goffa newydd i gofio Silyn a Mathonwy – yn rhithiol am y tro wrth gwrs.

1yp: Lansio Teithiau Cerdded ‘Llwybrau Dyffryn Nantlle’

Bydd gwib-fideo yn dangos y daith o Dalysarn i Frynllidiart er mwyn lansio gwefan newydd, Llwybrau Dyffryn Nantlle. Bwriad y wefan yw cynnig amrywiaeth o deithiau diwylliannol i’w dilyn o gwmpas y Dyffryn, gan rannu hanesion rhai o’r bobl, yr adeiladau a’r digwyddiadau a fu yma o’n blaenau ni. Bydd 3 taith ar gael i gychwyn, gyda mwy yn cael eu hychwanegu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

3yp: Doniau Creadigol Ysgol Nebo

Fideo arbennig sy’n dangos cip ar y gwaith mae disgyblion Ysgol Nebo wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar wrth ddysgu am Silyn, Mathonwy a Brynllidiart. Byddai Silyn a Mathonwy eu hunain wrth eu boddau yn clywed plant Nebo heddiw yn darllen rhai o’u cerddi a’u geiriau.

 

Yn fyw ar Zoom

7yh: ‘Mathonwy’ gan Ffion Eluned Owen a ‘Silyn’ gan Angharad Tomos

Cysylltwch â gwion.yrorsaf@gmail.com i gofrestru ar gyfer y digwyddiad cyn gynted â phosibl os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny. Croeso i chi gysylltu hefyd os nad ydych chi’n defnyddio Zoom ac yn awyddus i gael copi o’r sgyrsiau maes o law.

Gobeithio y bydd modd i chi ymuno â ni!

 

Mwy o wybodaeth:

Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl i’w cael yn y straeon hyn: Yn ôl i Frynllidiart – DyffrynNantlle360 a Nôl i’r ysgol – i ddysgu am arwyr lleol? – DyffrynNantlle360

Gellid hefyd wrando ar Angharad Tomos a Ffion Eluned Owen yn siarad ar raglen Dei Tomos (24.03.21) yma: Dei Tomos – Cofio dau brifardd a aned yn yr un bwthyn – BBC Sounds

Roedd eitem ar raglen Heno S4C nos Iau 25.03.21: Clic | Heno | 25 Mawrth 2021 (s4c.cymru)