Plac Coffa Brynllidiart

Dewch efo ni – yn rhithiol – i ddadorchuddio plac coffa i Silyn a Mathonwy ar eu hen gartref, Brynllidiart. Yn o ddigwyddiadau gŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’.

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen

Croeso i ddigwyddiad cyntaf gŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’.

Dyma ddadorchuddio plac coffa i gofio Silyn a Mathonwy, ar eu hen gartref, Brynllidiart, yr unig dyddyn yng Nghymru i fagu dau brifardd mewn dwy genhedlaeth.

 

Dim ond ei furddun unig

A weli fry ar dal frig

Yn ei heddwch mynyddig.

 

Diolau a diaelwyd

Yw y lle diarffordd llwyd

I dywydd a adawyd.

 

Tir pell y diadelloedd,

Darn di-werth a driniwyd oedd,

Ond Eden i’m taid ydoedd.

 

(Detholiad o ‘Brynllidiart’ gan Mathonwy)

 

Rydym ni’n falch iawn i osod plac coffa llechen i nodi hynodrwydd Brynllidiart, y tyddyn anial hwn sy’n adfail llwyr erbyn heddiw, ond a fu, nid yn unig yn fagwrfa i Silyn a Mathonwy, ond yn aelwyd fyrlymus o sgwrsio ac ymddiddan am ddegawdau.

Yng ngeiriau Mathonwy:

“Dyna’r math o awyrgylch cynnes oedd ar aelwyd fy hen gartref i, Brynllidiart, ac ar gannoedd o aelwydydd tebyg yn y dyddiau hynny. Deuai cyfeillion o bell ac agos yno, haf a gaeaf, a mawr fyddai’r miri, y canu a’r ymddiddan … Deuai fy ewythr Silyn heibio yn ei dro a thynnu ato am sgwrs wŷr fel Thomas Gwynn Jones, Llew G. Williams (perthynas), Robert Bryan, R. Williams Parry, Dafydd Thomas ac eraill. Roedd hi’n wledd hyd yn oed i blentyn fod yn y fath awyrgylch Fabinogaidd a rhamantaidd.”

Bywyd yr Ucheldir

 

Diolch i Rhys ac Iolo, Roberts & Owen.

 

Mwy o wybodaeth:

Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl i’w cael yn y straeon hyn: Yn ôl i Frynllidiart – DyffrynNantlle360; Nôl i’r ysgol – i ddysgu am arwyr lleol? – DyffrynNantlle360 a Amserlen: Yn ôl i Frynllidiart – DyffrynNantlle360

Gellid hefyd wrando ar Angharad Tomos a Ffion Eluned Owen yn siarad ar raglen Dei Tomos (24.03.21) yma: Dei Tomos – Cofio dau brifardd a aned yn yr un bwthyn – BBC Sounds

Roedd eitem ar raglen Heno S4C nos Iau 25.03.21: Clic | Heno | 25 Mawrth 2021 (s4c.cymru)

1 sylw

Ceridwen
Ceridwen

Da iawn wir x

Mae’r sylwadau wedi cau.