Cerdd·ed Dyffryn Nantlle

Lansio gwefan newydd sy’n mapio teithiau cerdded hanesyddol a ddiwyllianol ar draws Dyffryn Nantlle. Un o ddigwyddiadau gŵyl ‘Yn ôl i Frynllidiart.’

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen

Croeso i ail ddigwyddiad gŵyl rithiol ‘Yn ôl i Frynllidiart’.

Rydym yn falch iawn i lansio gwefan newydd sy’n cynnwys teithiau cerdded newydd o gwmpas Dyffryn Nantlle i bobl eu dilyn yn eu hamser eu hunain. Bwriad y teithiau hyn ydi rhannu hanesion rhai o’r bobl, yr adeiladau a’r digwyddiadau a fu yma o’n blaenau ni, a bydd pob taith yn tynnu sylw at nodweddion arbennig ar y ffordd.

Bydd y wefan yn cynnwys mapiau, cyfarwyddiadau, hanesion, lluniau a gwib-fideos i ddangos i chi ffordd i fynd.

Mae’r gwib-fideo uchod yn dangos y daith o Dal-y-sarn i fyny drwy Danrallt i Frynllidiart.

Llwybrau Dyffryn Nantlle/paths of Dyffryn Nantlle – Llwybrau Dyffryn Nantlle – The Paths of the Nantlle Valley (wordpress.com)

Mae 4 taith ar gael i gychwyn, gyda mwy yn cael eu hychwanegu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf gan Gwion, Arweinydd Twristiaeth Cymunedol Siop Griffiths, wrth iddo ddatblygu’r wefan.

1. Tal-y-sarn i Frynllidiart (5.5 milltir)

Mae nifer o bobl wedi ein holi ni sut mae cyrraedd Brynllidiart. Gan gychwyn a gorffen ym maes parcio Tal-y-sarn, bydd y daith hon yn mynd â chi heibio ciosg a chapel Tanrallt, drwy chwarel Fronheulog i Frynllidiart, cyn dod yn ôl heibio chwarel Tanrallt a Bro Silyn. Peidiwch â mynd i mewn i’r adfail gan nad yw’n hollol ddiogel.

2. Nebo i Frynllidiart (4.4 milltir)

Dewch i efelychu’r daith yr oedd Silyn a Mathonwy yn ei gwneud i’r ysgol bob dydd. Unwaith eto, peidiwch â mynd i mewn i’r adfail gan nad yw’n hollol ddiogel.

“I Ysgol Nebo, ysgol y mynydd, yr euthum, ac yr oeddwn yn 7 oed yn dechrau mynd yno.  Roedd hi’n agos i 3 milltir o gerdded i Nebo. Dewiswn y llwybr isaf oherwydd ei fod yn fyrrach o beth, a chan mai ar hyd y llwybr uchaf y byddai plant y Rhoslas a Chors y Llyn yn mynd, roedd fy nhaith yn un ddigon unig, ond yn un ddifyr iawn.

Weithiau, dewisai plant y Maenllwyd, cymdogion i ni, y llwybr isaf a chawn eu cwmni hwy. Tua Phont-y-lloc ymunai criw arall â ni, plant Nant Noddfa, y ddau Dal y maes, Pandy Hen a’r Brithdir, a’r tai o gwmpas, a byddai’r fataliwn yn un go gref cyn cyrraedd pen y siwrnai.”

Mathonwy Hughes, Bywyd yr Ucheldir

3. Llwybr Hir Pen-y-groes (3.4 milltir)

Gan gychwyn yn Yr Orsaf ym Mhen-y-groes, i lawr am Llanllyfni a thrwy Gaer Engan, cyn dod yn ôl pasio Macpela a Ffordd Haearn Bach, bydd y daith hon yn tynnu eich sylw at nifer o bethau diddorol i chi eu pasio heb wybod!

4. Llwybr Byr Pen-y-groes (2 milltir)

Fersiwn fer o’r daith uchod.

 

Llwybrau Dyffryn Nantlle/paths of Dyffryn Nantlle – Llwybrau Dyffryn Nantlle – The Paths of the Nantlle Valley (wordpress.com)

 

Digwyddiadau eraill gŵyl ‘Yn ôl i Frynllidiart’:

Plac Coffa Brynllidiart – DyffrynNantlle360

2 sylw

Ceridwen
Ceridwen

Edrych mlaen i fynd yno eto efo cerdd-ed.

Mae’r sylwadau wedi cau.