Gavin Jones a Llion Jones yn ymuno i’r tîm cyntaf ar gyfer y tymor 20/20-Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

‼️ CHWARAEWYR NEWYDD‼️

⚪️ Gavin Jones a Llion Jones?

Y clwb yn falch o gyhoeddi fod Gavin a Llion yn ymuno o Llanrug!!

Dau chwaraewr o safon sydd yn sicr am gryfhau y tim yn y gyngrhair newydd?

Neges gan Sion isod.⬇️

“Mor falch o allu cynhoeddi hyn heddiw yn dilyn sgyrsiau positif gyda’r hogia. Dan wedi bod yn trio cael y ddau i mewn ers tro a erbyn hyn mae’r amser yn iawn.Gav yn dod i mewn fel blaenwr cryf, cyflym sydd am roi cur pen i amddiffynwyr yn y crys glas. Llion am ddod mewn i chwarae ganol cae, canolwr sydd am reoli gemau gyda’i gryfder a’i sicrwydd ar y bel. Y ddau wedi profi ers blynyddoedd bellach fod nhw yn chwaraewyr haen 3 os nad haen dau. Edrych ’mlaen i weithio hefo nhw. ”

?Edrychwn’ mlaen gweld yr hogia ar gae Maes Dulyn.?

?Mwy o NEWYDDION i ddilyn yr wythnos yma!!! ?

Cân-Anthem y Clwb-Tarw Nefyn-Gai Toms a’r Banditos ?