Marchnad Lleu

Marchnad Nadolig

Anwen Harman
gan Anwen Harman

Roedd y Farchnad yn llawn dop ar fore Sadwrn yn Rhagfyr – llwyth o stondinau amrywiol a hyd yn oed ymweliad gan y dyn ei hun Santa! Yn yr ystafell fach roedd Wendy yn brysur yn dysgu sut i wneud torchau Nadolig a’r lle yn ddail,brigau, celyn, orennau a chwerthin. Siwr bod dros ddwsin wedi eu gwneud yn barod i’w gosod ar ddrws ffrynt neu fynd i’r fynwent. Diolch Wendy.

Arddangosfa’r mis oedd Nadolig ‘Gwyrdd’ gydag addurniadau syml I’ch cartref, syniadau am fwydydd, pa anrhegion fyddai’n helpu bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Bu Cornel y Plant yn brysur yn gwneud addurniadau hefo orennau a ‘popcorn’.

Yn y cyntedd ‘roedd y’Band’ yn chwarae a chroesawu pawb i mewn ac am 11:00 symudodd y criw brwdfrydig i’r Neuadd i roi cyfle i ni gydganu carolau hefo Fflur Pierce yn ein helpu. Pawb di joiio a hoffem ddiolch I’r band a Fflur am eu parodrwydd i helpu roi naws Nadoligaidd ychwanegol trwy’r bore. Cynhaliwyd raffl er budd y band â, gyda haelionni’r stondinwyr, un tuag at Ysgol Pendalar. Diolch pawb am gefnogi.  Mae ein diolch i wirfoddolwyr Cyfeillion Talysarn a Nantlle, y stondinwyr ac i bawb ddaru ddod i brynu, cael panad a chefnogi. Gobeithio bydd y flwyddyn newydd yn un iach, heddychlon a hapus i bawb.