Cadair Eisteddfod Llanllyfni 2024
‘Gan ‘unwaith eto’ y cafwyd cerdd orau’r gystadleuaeth hon yn sicr, ac mae hi’n gerdd y dotiais arni’n syth. Mae hi’n gwneud popeth y dylai barddoniaeth dda ei wneud. Cerdd uniongyrchol iawn ydi hi ar un wedd, yn darlunio cychod segur yn yr harbwr a’r rheini’n raddol gael eu deffro o drwmgwsg y gaeaf er mwyn dychwelyd i’r môr. Dyna’i hyd a’i lled hi, ond mae’r disgrifiadau a’r delweddau’n gwbl gampus oherwydd eu cynildeb, eu gwreiddioldeb, a thawelwch cadarn llais y bardd. Ar y diwedd, mae’r bardd hwnnw’n gwenu wrth wylio’r cychod yn dychwelyd i’r môr, ‘i gyffyrddiad tonnau / hen gariad’, a siawns bod yn fan hyn fyfyrdod lled hiraethus am natur mynd a dod bywyd, sy’n rhoi haen ddyfnach i waith ymddangosiadol syml. Cerdd gynnes, dawel, atmosfferig, wnaeth hoelio fy sylw’n syth. Dim ond cryfhau wnaeth fy edmygedd gyda phob darlleniad. Mae hi’n wir gampus ac yn haeddu’r gadair am waith gorau’r eisteddfod eleni’.
Y Prifardd Rhys Iorwerth
LLUN: Steddfod Llan 01
Un o Lundain yw Jo Heyde, yn wreiddiol. Gwnaeth hyfforddi fel pianydd yn yr Academi Frenhinol pan yn ifanc, cyn graddio o Goleg y Brenin, Llundain gyda B. Mus Hons. Bu’n gweithio fel athrawes biano am dri degawd wrth fagu ei phlant.
Nid oes gan Jo unrhyw gysylltiad teuluol â Chymru, ond penderfynodd ddysgu Cymraeg ym mis Hydref 2018 ar ôl clywed yr iaith pan oedd ar wyliau yn Sir Benfro, ac ar ôl iddi gwympo mewn cariad â sŵn yr iaith a’r wlad. Nid yw hi wedi mynychu gwersi ffurfiol ond yn hytrach, mae hi wedi dysgu’r iaith trwy wrando ar y radio, darllen llyfrau ac ymdrochi yn y gramadeg. Ar ddechrau 2021, yn ystod y cyfnod clo, ar ôl darganfod y podlediad Clera, dechreuodd Jo ddarllen barddoniaeth am y tro cyntaf, a dysgodd sut i gynganeddu trwy ddarllen holl weithiau Alan Llwyd, cyn ymuno ag Ysgol Farddol Caerfyrddin ble mae’n parhau i fynychu’r sesiynau.
Erbyn hyn mae’n rhannu ei hamser rhwng Cymru a Lloegr, gan ganolbwyntio ar farddoni. Mae wedi sefydlu’r Clwb Barddoniaeth Gymraeg i drafod a hyrwyddo cyfrolau o farddoniaeth gan feirdd cyfoes. Enillodd Gadair Eisteddfod Llandudoch, a Choron Llanbedr yn 2022, ac Enillodd Gadair Eisteddfod Ysgol Farddol Caerfyrddin ym mis Ionawr y llynedd, a Chadair Crymych a Chadair Llandudoch wedi hynny.
Erbyn hyn mae Jo yn aelod o bwyllgor gwaith Barddas ac yn gydlynydd Bardd y Mis. Mae ei cherddi wedi cael eu dewis i ymddangos ym mhamffledi Ffosfforws 2 a 3 a 4, o wasg Cyhoeddiadau’r Stamp, a sawl cerdd yng nghylchgrawn Barddas.
‘Dychwelyd’ gan Jo Heyde
Tra bo’r môr
yn anadlu’n ddwfn,
amser piau hi …
… y wawr yn llusgo
boreau llesg
dros wal yr harbwr;
a gwelaf y cewri
o hyd mewn trwmgwsg
ar resi o welyau haearn –
y tarth yn toddi’n
leiniau hallt
ar lyfnder cwyraidd
y tarpolins…
… distawrwydd …
…rhaffau cyhyrog
yn tynnu’n dynn
dros siâp eu cyrff,
a bysedd metel
yn ymestyn i afael
yn lleithder y cobls;
a phan, o’r diwedd,
ddaw’r gwenoliaid
â’r Gwanwyn yn ôl,
clywaf synau’r deffroad
wrth gyrraedd y cei,
a chanfod, o’r parapet,
brysurdeb Lilipwtaidd –
dwylo dyfal yn datod clymau,
a thynnu gorchuddion,
rhythm defod –
golchi
a thacluso
a thwtio;
caledwch brwsys
yn araf adfer
croen wedi plicio;
sglein paent
yn wisg newydd,
coch a du a glas,
lliwiau balchder haf;
a chyn bo hir
dechreua’r bale
wedi’i ymarfer filwaith –
craen a chrafanc
yn dal y cychod
yn osgeiddig,
gwichian pren
a chlecian cadwyni
a thincial cletiau;
a bron imi godi llaw arnynt,
wrth i’r baneri bach
ar eu pennau blaen
chwifio tara;
ond fe’u gwyliaf
â gwên dawel
wrth iddynt gael eu gollwng,
fesul un,
i gyffyrddiad tonnau
hen gariad.