Disgybl Ysgol Dyffryn Nantlle ar Gae Ras Wrecsam

Cyfle gwych i Non o Ysgol Dyffryn Nantlle.

gan Gwen Williams

Mae Non Llewelyn Williams yn ddisgybl blwyddyn deg yn Ysgol Dyffryn Nantlle, ac yn byw ar fferm Hendre Nantcyll, Pantglas.
Ers yn blentyn ifanc iawn roedd yn mwynhau chwarae pêl-droed. Gan nad oedd tîm merched yn Nyffryn Nantlle, penderfynodd ymuno â Thîm Bechgyn Dyffryn Nantlle er mwyn cael ymarfer ei sgiliau.

Bu’n chwarae i sawl tîm arall yn dilyn hynny, ond ers oddeutu bum mlynedd mae’n chwarae i Dîm Merched Gogledd Cymru ac erbyn hyn yn chwarae i’r tim dan 16 – cryn gamp. Mae hynny’n golygu ei bod yn teithio i Wrecsam
deirgwaith yr wythnos yn ogystal â gêm bob dydd Sul – ymroddiad go iawn.

Yn ddiweddar roedd Tîm Pêl-droed Merched Cymru yn chwarae yn erbyn Croatia ar y Cae Ras enwog, buddugoliaeth o 4 gôl i 0. Rhoddwyd gwahoddiad i aelodau’r tîm Merched Gogledd Cymru i fod yn ‘ball girls’
yn ystod y gêm, a derbyniodd Non y cynnig ar ei hunion, a mwynhau’r profiad yn fawr. Efallai y bydd hithau yn rhan o’r tîm hŷn rhyw ddiwrnod.

Dweud eich dweud