Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Dyma’r criw dawnsio yn edrych yn ddelach nac erioed yn Rali y llynedd.
Croeso i’n blog byw!
Yma byddwn yn eich diweddaru gyda holl baratoadau’r Rali, gan gynnwys peintio arwyddion, ymarferion dawnsio, canu ac ychydig o actio (neu drio!).
Rydym ar drothwy mis prysuraf y flwyddyn ym myd y Ffermwyr Ifanc, ac er cymaint o waith caled sy’n digwydd, mae hwyl ofnadwy i’w gael.
Newid o’r ‘sgidia’ dawnsio heno am y brwshys paent heno wrth baratoi arwydd y Rali!
Gwyliwch allan wythnos nesaf am ein arwydd yn ardal Penygroes, mi fydd i fyny wythnos i heddiw.