Cysur mewn ysgrifennu

Ar ôl i arholiadau Lefel A Lleucu Non gael eu canslo mae hi wedi penderfynu ysgrifennu nofel.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Lleucu Non

Fel mwyafrif o ddisgyblion ar draws y wlad mae cyfnod Lleucu Non yn yr ysgol wedi dod i ben yn gynnar.

Roedd disgwyl i’r ferch o Benygroes sefyll ei arholiadau Lefel A eleni, ond gan fod ei arholiadau nawr wedi eu canslo oherwydd y coronafeirws mae hi wedi penderfynu mynd ati i ysgrifennu nofel .

“Heb ddweud gormod, mae’n nofel dditectif.

“Llywela Mai yw’r dioddefwr, a trwy’r stori rydym yn cael gweld yr ochr sinistr o Llywela trwy safbwyntiau cymeriadau eraill.”

 

Eglurodd fod y sefyllfa yn un “chwerw-felys” iddi hi a’i chyd ddisgyblion gan mai dyma oedd penllanw dwy flynedd o waith caled iddynt.

Er hyn, mae hi’n benderfynol o wneud y mwyaf o’u hamser dros y misoedd nesaf.

“Yn ogystal â defnyddio’r amser yma i ddatblygu nofel, rydw i’n mynd i ddarllen llyfrau rydw i wedi bod eisiau darllen ers tro byd!

“Un o fy hoff bethau heblaw am ysgrifennu, darllen a gwrando ar gerddoriaeth ydi gwylio ffilmiau, unrhyw fath o ffilm – heblaw am ffilmiau arswyd!

“Mae’n ffordd dda o feddwl am y cymeriadau, y plot ac eistedd yn ddistaw heb ymyrraeth.”

 

Ysbrydoliaeth Mam

Dechreuodd diddordeb Lleucu Non mewn ysgrifennu creadigol pan roedd hi’n ifanc iawn, ac mae’n ddiolchgar i’w Mam am ei chefnogaeth.

“Mae Mam wedi bod yn gefn i mi erioed, ac wedi f’annog i ddilyn y llwybrau angenrheidiol i gyflawni fy mreuddwydion.

“Pan oeddwn i’n iau, buaswn i’n ysgrifennu straeon i ladd amser.

“Roeddwn i’n arfer mwynhau ysgrifennu am fy mhenwythnos yn yr ysgol gynradd, ac mae’r cysur mewn ysgrifennu wedi ei wreiddio ers hynny dwi’n meddwl.”

 

Tŷ Newydd

Yn gynharach eleni cafodd ei dewis ymhlith 11 o bobol eraill i fod yn rhan o gwrs ysgrifennu yng Nghanolfan Tŷ Newydd.

Roedd y cwrs wythnos yn cael ei arwain gan ddwy awdur profiadol, Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros.

Roedd y cwrs yn cynnwys gweithdai ymarferol, astudiaeth o’r maes llyfrau i oedolion ifanc yng Nghymru a thros y byd, sgyrsiau gan arbenigwyr, trafodaethau, a chyfle i rannu syniadau gyda chyd awduron.

“Roeddwn i’n andros o nerfus yn mynd oherwydd mai fi oedd y ieuengaf o bawb ar y cwrs.”

“Roedd y cwrs yn wythnos fendigedig, ac yn gyfle i dreulio amser gyda pobl debyg i mi.

“Roedd cael ysgrifennu mewn lle mor ddistaw, heddychlon a braf yn llewyrchus iawn.”

 

Dwy o Ddyffryn Nantlle wedi ennill lle ar gwrs ysgrifennu i oedolion ifanc

Gohebydd Golwg360

Megan Angharad Hunter a Lleucu Non ymhlith 11 sydd wedi ennill lle ar y cwrs yn Nhŷ Newydd