Dwy o Ddyffryn Nantlle wedi ennill lle ar gwrs ysgrifennu i oedolion ifanc

Megan Angharad Hunter a Lleucu Non ymhlith 11 sydd wedi ennill lle ar y cwrs yn Nhŷ Newydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Tŷ Newydd

Mae dwy o Ddyffryn Nantlle, Megan Angharad Hunter a Lleucu Non, ymhlith enwau’r unigolion sydd wedi ennill lle ar Gwrs Ysgrifennu i Oedolion Ifanc yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd fis Chwefror.

Yn ôl y Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru daeth 27 o geisiadau cryf i law, ac mae’r grŵp sydd wedi ei ddewis yn gymysgedd o egin awduron sy’n troi eu llaw at ysgrifennu ar gyfer oedolion ifainc am y tro cyntaf, ac ambell un sydd ag ychydig o brofiad eisoes.

Caiff y cwrs wythnos ei arwain gan ddwy awdur profiadol o fewn y maes, Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Bydd yn cynnwys gweithdai ymarferol, astudiaeth o’r maes llyfrau i oedolion ifanc yng Nghymru a thros y byd, sgyrsiau gan arbenigwyr, trafodaethau, a chyfle i rannu syniadau gyda chyd-awduron.

 

Megan Angharad Hunter

Daw Megan Angharad Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle ond mae bellach yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio cwrs BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth. Pan fo’r amser ganddi, mae hi’n mwynhau ysgrifennu’n greadigol ac wedi cwblhau drafft o nofel ar gyfer oedolion ifainc.

Ei hoff lyfrau i oedolion ifainc yw’r gyfres His Dark Materials gan Phillip Pullman. Pan oedd hi’n iau roedd hi hefyd yn hoff iawn o’r llyfrau ffantasi Trwy’r Darlun a Trwy’r Tonnau gan Manon Steffan Ros.

Yn ogystal ag ysgrifennu, câi bleser o greu a pherfformio cerddoriaeth; mae hi’n chwarae’r ffliwt ym mand Jazz Prifysgol Caerdydd ac weithiau’n chwarae o gwmpas ar y gitâr.

Lleucu Non

Un o Ddyffryn Nantlle yw Lleucu Non ac mae’n byw gyda’i mam a’i chathod, Siwgr a Lwmp. Mae’n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Nantlle ac yn astudio Cymraeg, Saesneg a Hanes, ac yn gobeithio mynd i astudio’r Gymraeg yn y brifysgol.

Yn ei hamser sbâr, mae’n ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu’n flynyddol mewn Eisteddfodau lleol ac Eisteddfod yr Urdd. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer gwefan Lysh.

Mae Lleucu wrth ei bodd yn darllen llyfrau sy’n llawn antur a dirgel. Ond, hoff beth Lleucu mewn llyfryddiaeth ydi’r datblygiad o gymeriadau merched cryf dros amser.

 

Yr awduron sydd wedi eu dewis yw:

  • Llio Maddocks – Llan Ffestiniog
  • Megan Angharad Hunter – Penygroes, Dyffryn Nantlle
  • Mared Llywelyn – Morfa Nefyn
  • Ceinwen Jones – Deiniolen
  • Helen Llewelyn – Ceredigion
  • Rhys Thomas – Alma yng Ngorllewin Cymru
  • Lowri Taylor – Llansanna
  • Lleucu Non – Dyffryn Nantlle
  • Morgan Dafydd – Conwy
  • Catrin Lliar Jones – Llanaelhaearn
  • Gareth Evans-Jones – Traeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn