Lois fu’n cynrychioli ein clwb yn noson Siarad Gyhoeddus y Sir nôl ym mis Mawrth.
Mae Siarad Cyhoeddus yn gystadleuaeth flynyddol gaiff ei chynnal gan y Sir, cyfle i aelodau serennu wrth ddadlau brwd, adrodd storïau a dangos y dalent sydd gennym yma yn Eryri.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth sirol yn Ysgol Syr Hugh Owen eleni, a Lois fu’n cystadlu yn y gystadleuaeth Ymgeisio am Swydd iau. Ar gyfer y gystadleuaeth roedd angen iddi gyflwyno Llythyr Cais a CV yn ogystal â swydd ddisgrifiad i’r swydd roedd hi’n ymgeisio amdano.
Mae’n rhaid i Lois werthu ei hun yn dda yn y cyfweliad gan Emyr Williams, y beirniad profiadol, gan iddi ddod yn fuddugol a chael ei dewis i gynrychioli’r Sir yng nghystadleuaeth Cymru.
Felly, ar y 24ain o Fawrth trafaeliodd Lois yr holl ffordd i Lanelwedd ar ddiwrnod bendigedig i gystadlu yn y Ddadl Adran Ganol ac Ymgeisio am Swydd.
Ni ddaeth llwyddiant i’r Sir yng nghystadleuaeth y ddadl, ond daeth Lois yn drydydd drwy Gymru yn yr Ymgeisio am Swydd iau!
Rydym yn hynod o falch ohonot yn Nyffryn Nantlle Lois, llongyfarchiadau!
Er mwyn gweld mwy o weithgareddau a chystadlaethau’r Clwb a’r Sir, dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol.
Instagram: CFFIDyffrynNantlle
Facebook: CFfI Dyffryn Nantlle