Swyddogion CPD Nantlle Vale 2022-2023

CPD Nantlle Vale 

Begw Elain
gan Begw Elain

Yn dilyn Cyfarfod blynyddold, hoffai y glwb gyhoeddi swyddogion am y tymor 2022-2023. Mae’r clwb yn ffodus iawn i gael clymblaid o aelodion sy’n ymrwymo llawer iawn o’u hamser i gynnal y timau gan sicrhau fod cyfleon i ddatblygu sgiliau pêl droed yn yr ardal.

Mae’r clwb yn ymfalchio yn y cyfle i gyflwyno merch wrth y llyw a fydd yn arwain y clwb yn y rôl Cadeiryddes am y tymor. Mae Kim Warrington-Davies wedi bod yn rhan anatol yn y clwb ers 5 mlynnedd, gyda 4 o rheini fel Ysgrifennyddes. Mae’r Kim yn ymrwymo llawer iawn o’i hamser i sicrhau fis gweithdrefnau yn eu lle er mwyn cynnal y clwb o ddydd i ddydd.

Hoffai y clwb groesawu Hefina Roberts yn nôl fel Is- gadeiryddes, mae Hefina wedi bod yn aelod o’r clwb ers 36 o flynyddoedd, gynt fêl ysgrifennyddes a wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygiad Y clwb, mae’r clwb yn falch iawn o groesawu Hefina yn nôl ar ol seibiant bach. Mae Kim yn edrych ymlaen yn fawr i gyd-weithio gyda Hefina.

Mae’r clwb yn falch iawn o ethol Kirk Emery yn nôl am y tymor fel
Trysorydd, mae Kirk yn aelod cymwys ers 1987 ac yn cyfrannu yn fawr ar gynnal y lotto yn ogystal.

Hoffai y clwb groesawu Susan Jones yn swyddogol fel Is-drysorydd, mae Sue yn cyfrannu llawer o’i hamser i’r clwb gan gynorthwyo gyda chodi arian, y caffi a paratoi lluniaeth. Mae ganddi brofiad helaeth yn y maes cyllid a rydym yn falch iawn i’w hethol yn swyddogol.

Bydd Kim Warrington-Davies yn parhau fel ysgrifennyddes y clwb yn ogystal.

Mae’r clwb yn hynod falch o groesawu Heulwen Ann Jones fel is-ysgrifennyddes am y tymor, roedd Heulwen yn aelod cymwys i CPD Llanllyfni am flynyddoedd, mi fydd yn cyfrannu llu o brofiad a syniadau i’r clwb.

Mae’r clwb yn hynod falch o groesawu Begw Elain yn nôl fel
Swyddog y wasg, mae Begw yn ferch ifanc brwdfrydig a thalentog, mae hi’n hyrwyddo y clwb gyda dawn arbennig ac yn sicrhau fod Nantlle Vale yn y cyfryngau. Mae’r clwb yn ffodus iawn ohonni.

Mae’r clwb yn falch iawn o groesawu aelod newydd i’r bwrdd, mae Dylan Pritchard wedi ei ethol fel Rheolwr Masnachol, mae Dylan yn dod a llu o brofiad gyda fo, yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda CPD Mountain Rangers. Rydym yn ymfalchio yn ei ymrwymiad ac yn edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda Dylan.

Swyddogion 2022-2023

Cadeiryddes – Kim Warrington-Davies
Is gadeiryddes- Hefina Roberts
Trysorydd- Kirk Emery
Is drysorydd – Susan Jones
Ysgrifennyddes- Kim Warrington-Davies
Is Ysgrifennyddes- Heulwen Ann Jones
Swyddog y wasg- Begw Elain
Rheolwr Masnachol- Dylan Pritchard