Rheolwyr newydd ail dîm CPD Nantlle Vale! 

CPD Nantlle Vale 

Begw Elain
gan Begw Elain

?⚽️Rheolwyr newydd ail dîm CPD Nantlle Vale⚽️?

Llongyfarchiadau i Dylan Williams ( Dyl bach) ar gael ei benodi fel rheolwr yr ail dîm, braint yw cael chdi’n rhan o deulu Nantlle Vale. Mae gan Dyl brofiad helaeth yn chwarae i dîm cyntaf Nantlle Vale, Penrhyndeudraeth ac yn ddiweddar yn arwain ar y cae yn Mountain Rangers. Mae o’n amddiffynnwr cryf a pheniog ac yn ymrwymo ei hun cant y cant i unrhyw garfan. Diolch i ti Dyl am ymrwymo i gynrychioli’r Clwb, braint a phleser yw dy gael di’n ôl yng nghae Nantlle Vale yn cynnig cyfleoedd i hogiau/ dynion lleol.

Croeso nôl i Adam Jackson, Llongyfarchiadau ar dy benodiad fel is reolwr i’r ail dîm! Cefn cadarn i gefnogi Dyl a chwaraewr profiadol ar y cae, amddiffynnwr cryf gyda Nantlle Vale yn dy waed di! Diolch o galon am ymrwymo i arwain a hyfforddi’r ail dîm, pleser mawr yw dy groesawu yn nôl fel arweinydd.

Rydym yn edrych ‘mlaen i’ch gweld yn arwain hogiau Fêl tymor yma.