Hogiau Fêl nôl ar y bêl! 

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain
1F11D100-CE94-4BD1-8920

Ar ôl misoedd eto o aros adref a chyfnod clo , gafodd hogiau Fêl ddychwelyd nôl i sesiynau hyfforddi a chychwyn gemau cyn-dymor dan arweiniad Daniel Bell a Sion Eifion.

Gêm gyntaf o’r gemau cyn-dymor y tîm cyntaf oedd yn erbyn Llanrug United FC ar gae 3G Plas Silyn nos Iau 27 o Fai. Y sgôr terfynol oedd Nantlle Vale 2 – Llanrug 0. Goliau gan Aled Williams a Sion Parry. Da iawn hogiau! Bydd fideo uchafbwyntiau o’r gêm yn cael ei gyhoeddi wythnos yma ar gyfryngau cymdeithasol y clwb.

Chwaraeodd y tîm cyntaf gêm arall yn erbyn Bangor City ar brynhawn Sadwrn pumed o  Fehefin. Y sgôr  terfynol  oedd Bangor City 5 Nantlle Vale 0.Da iawn hogiau am frwydro a chadw eu pennau fyny nes at y chwiban olaf! Braf iawn oedd gorffen y gêm gyda hogiau lleol i fyny ffrynt, Math Jones (17 oed) a Llion Griffiths (16 oed).Llongyfarchiadau mawr Llion am wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r tîm cyntaf ar ôl fod yng nghofal Steve Inch , tîm dan 16 Nantlle Vale. Da iawn Llion!

Dyma restr gemau cyn-dymor y tîm cyntaf eleni.

12/6/21-Mountain Rangers (A) Cic gyntaf 12pm

17/6/21-1st Battalion The Royal Welsh ( 3G Plas Silyn) Cic gyntaf 7:15PM

19/6/21-Llannerchymedd (A)

26/6/21-Llansannan (H) Cwpan Orig Williams

3/7/21 -Holyhead Hotspur (H)

10/7/21-Cheltenham Civil Service FC (H)

(Amseroedd eraill y gemau i’w gadarnhau)

Er mwyn dilyn mwy o’r clwb , cofiwch ddilyn ein cyfryngau cymdeithasol @NantlleValeFC ,Facebook, Twitter a Instagram.

Diolch yn fawr

Begw Elain