Edrych yn ôl 60 mlynedd – CPD Nantlle Vale

Edrych nôl ar bedwar diwrnod hollol ryfeddol yn hanes Clwb y Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

?⬇️E D R Y C H  Y N   Ô L  60 M L Y N E D D⬇️?

⚪️Diolch yn fawr i Ieu Parry am y darn yma! ?

Yn y dyddiau dyrys di-ffwtbol hyn, efo pawb yn gorfod bodloni ar weld gemau heb gefnogwyr neu hen gemau digon diflas o’r archif, beth am droi’r cloc yn ôl chwe deg mlynedd union, a chanolbwyntio ar un cyfnod o bedwar diwrnod hollol ryfeddol yn hanes Clwb Y Vale!

Erbyn diwedd tymor 1959-60, roedd tîm enwog Freddie Pye wedi cyrraedd Rownd Derfynol Cwpan Cookson ac o fewn dim i ennill Pencampwriaeth Cynghrair Cymru (sef yr hen ‘Welsh League North’).
Roedd y ffeinal yn erbyn Borough United yn cael ei chynnal ar nos Wener ar gae enwog Ffordd Farrar ym Mangor, a’r diwrnod wedyn, roedd gan y Fêl gêm gartref yn erbyn Llandudno i selio’r Bencampwriaeth. Gorffennodd y gêm yn erbyn Borough yn gyfartal, heb amser ychwanegol, felly roedd yn rhaid ail-chwarae ar y nos Lun. Dyna i chi dair gêm anferth i’r clwb o fewn pedwar diwrnod – rhywbeth na fyddai byth yn digwydd heddiw. Dyma i chi beth ddigwyddodd ….

Rownd Derfynol Cwpan Cookson 1959-60
Borough United v Nantlle Fêl
Nos Wener
Roedd y Fêl eisoes wedi chwarae ar Ffordd Farrar yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Caernarfon ac wedi curo’r Cofis o 6 gôl i 2 o flaen torf anferth o 4,400, ond roedd pethau yn wahanol iawn yn erbyn Borough.
Yn y munudau cyntaf sgoriodd Joe McLoughlin i roi’r tîm o Gyffordd Llandudno ar y blaen. Roedd gwaeth i ddod pan sgoriodd McLoughlin eto, ac erbyn hanner amser, roedd cic rydd Derek Owen wedi eu rhoi 3-0 i fyny a phethau yn edrych yn ddu iawn ar y Fêl.
Ond yn fuan yn yr ail hanner, dyma Terry Gillespie yn rhoi gobaith i’r cefnogwyr pan saethodd i gornel y rhwyd. Ac yna, gyda deg munud o’r gêm ar ôl, sgoriodd Gillespie gôl wych arall. I goroni perfformiad arbennig yn yr ail hanner, croesodd Eric Webster y bêl i Reg Taylor sgorio’r drydedd i’r Fêl tri munud yn unig o’r diwedd.
Yn ôl yr adroddiaau, hon oedd gêm orau’r tymor ar Ffordd Farrar, o flaen torf o 5,700.
Y Tîm: Hardman Green McLeod Pye Barber Busby Taylor Williams Gillespie Webster Littler
Nantlle Fêl v Llandudno

Pnawn Sadwrn
Prin oedd cefnogwyr y Fêl wedi cael eu gwynt atynt cyn y gêm fawr arall y diwrnod canlynol. Roedd yn rhaid ennill yn erbyn Llandudno i sicrhau’r Bencampwriaeth, ond roedd nifer o hogia’r Fêl yn teimlo effaith y gêm yn erbyn Borough rhyw ychydig oriau ynghynt.
Daeth George Allman a Jeff Williams i mewn i’r tîm yn lle Tommy Littler a Sandy Busby (mab Matt Busby gyda llaw), y ddau yn dioddef o anafiadau.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl wyth munud pan sgoriodd Terry Casey yn dilyn camgymeriad Hardman. Daeth y Fêl yn gyfartal wedi 32 o funudau trwy gic o’r smotyn Norman McLeod. Ac wyth munud wedyn peniodd Henry Williams y tîm cartref ar y blaen. Roedd hi’n 3-1 wedi 78 munud pan sgoriodd George Allman, ac yn fuan wedyn dyma’r un chwaraewr yn penio gôl arall. Er i Llandudno sgorio eto, roedd y Fêl wedi ennill 4-2 a thrwy hynny wedi eu coroni yn Bencampwyr.

Rownd Derfynol Cwpan Cookson (Ail Chwarae)
Borough United v Nantlle Fêl
Nos Lun

Yn ôl pob sôn, doedd y gêm yma ddim hanner mor gyffrous â’r un nos Wener. Unwaith eto, roedd torf enfawr o 5,400 wedi llifo i Ffordd Farrar, ond y tro hwn, y Fêl gychwynnodd ar dân. Yn y 7fed munud, dyma Eric Webster, chwarewr gorau’r gêm, yn sgorio yn syth o gic gornel. Croesodd Webster y bêl i Gillespie benio’r ail wedi 22 munud, ac ar hanner amser, roedd hi’n 2-0 i’r Fêl.
Wedi awr o chwarae, sgoriodd Joe McLoughlin i Borough, ond o fewn munud, roedd Webster wedi rhoi ei dîm 3-1 ar y blaen yn dilyn gwaith da gan Gillespie. Er i Borough ymladd yn galed, roedd Hardman fel craig yn y gôl, ac yn yr eiliadau olaf, sgoriodd Terry Gillespie eto i sicrhau bod y gwpan ar ei ffordd yn haeddiannol i Ddyffryn Nantlle.

Roedd cyfanswm o 11,100 wedi gwylio’r ddwy gêm ar Ffordd Farrar, gan dalu £1040.00 wrth y giât. Heddiw, mi fyddai hynny werth tua £22,000. Gyda thorf fawr ar Faes Dulyn ar y dydd Sadwrn, mae’n bosib fod yna dros 13,000 wedi gwylio’r Fêl mewn tair gêm dros gyfnod o bedwar diwrnod. Rhyfeddol yn wir! Ac ar ben bob dim, roedd ganddyn nhw gêm yn erbyn Port ar y nos Iau!

Llun: Codi baner y Pencampwyr ar Gae’r Vale!⚽️

 

#cmonyfêl