Fel nifer o sefydliadau mae Menter Gymunedol Siop Griffiths ym Mhenygroes wedi gorfod addasu yn sylweddol oherwydd Covid-19.
Mae Greta Jams, Swyddog Datblygu a Marchnata Yr Orsaf wedi diolch i dros 50 o wirfoddolwyr am ei gwaith caled wrth iddi hi a’i chydweithwyr addasu nifer o gynlluniau er budd y gymuned leol.
Ei chyfrifoldebau arferol oedd trefnu digwyddiadau cymdeithasol i bobol o bob oed yn y gymdeithas – ond wrth i bob dim o gigs i glybiau gwau yn Yr Orsaf gael eu gohirio mae hi bellach wedi bod yn gyfrifol am gydlynu grŵp cymunedol o wirfoddolwyr yn yr ardal.
“Mae’r galw wedi bod yn anhygoel, ac mae’n braf gallu bod ochr draw i’r ffon neu fod o gymorth os oes rhywun angen help gyda nôl presgripsiwn neu siopa.”
Yn ôl y Swyddog Datblygu a Marchnata mae bellach dros 50 o wirfoddolwyr yn rhan o’r cynllun ac yn helpu 90 o bobol sydd yn hunanynysu yn yr ardal.
“Yn rhyfedd iawn roeddem ni wedi bwriadu recriwtio gwirfoddolwyr adeg yma ar gyfer y cynllun trafnidiaeth – nod y cynllun yw helpu pobol hyn yn y gymuned sydd ddim yn dreifio neu sydd methu mynd i lefydd ei hunain.
“Mae’r ffaith ein bod ni wedi cael cymaint o ddiddordeb rŵan mewn gwirfoddoli yn ein cymunedau yn ein gwneud ni’n obeithiol bydd yna bobol eisiau gwirfoddoli yn y dyfodol.”
Dechrau swydd newydd yng nghanol y pandemig
Ar ôl sicrhau grantiau er mwyn dechrau’r Cynllun Trafnidiaeth Cymunedol cyflogwyd Elliw Owen gan Yr Orsaf fis Mawrth er mwyn cydlynu’r cynllun newydd.
Mae hi’n cydnabod fod dechrau swydd newydd yng nghanol y pandemig wedi bod yn heriol. Ond er nad ydy hi wedi bod yn bosib cwrdd â phobol wyneb yn wyneb mae addasu’r cynlluniau wedi rhoi’r cyfle iddi ddod i adnabod y gymuned ehangach.
“Does dim byd gwell na chael dy daflu fewn i swydd newydd”, meddai.
“Ar ôl pythefnos yn unig yn gweithio yn Yr Orsaf bu rhaid i fi a phawb arall ddechrau gweithio o adre.
“Wrth gwrs mae ‘na heriau wedi codi o ganlyniad i hyn, ond drwy’r cynlluniau cymorth da ni di creu da ni di gallu addasu a chefnogi ein cymunedau.”
Er bod y Cynllun Trafnidiaeth Cymunedol ar stop ar hyn o bryd mae Elliw Owen yn ffyddiog bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen yn y dyfodol, a’i bod nhw’n barod i addasu’r cynllun pe bai angen gwneud hynny.
Yn ogystal â ffyrdd newydd o weithio mae’r cyfnod yma hefyd wedi bod yn gyfle i arbrofi – yn ddiweddar maen nhw wedi buddsoddi mewn iPad er mwyn galluogi pobol sy’n hunanynysu sydd heb fynediad i’r we i gysylltu â theulu a ffrindiau wyneb yn wyneb.
“Mae gennym ni nifer o gynlluniau ar y gweill. Bydd rhaid aros nes bydd hi’n saff i redeg rhai cynlluniau fel y cynllun ‘O Fama i Fana’, ond mae cynlluniau eraill fel y cynllun iPad cymunedol yn rhywbeth da ni wedi gosod fyny er mwyn ateb y galw yn y cyfnod yma.”
Mae Elliw Owen yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio’r iPad cymunedol i gysylltu â hi neu Yr Orsaf.