Blas ar daith gerdded Yr Orsaf (Awst 2021)

‘O! Ddyffryn hedd, O! Ddyffryn hardd, / Wyt Eden Ardd i fardd i fyw …’ (‘Llun fy Nyffryn i’, Griffith Francis)

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen

Ar ddydd Sadwrn yng nghanol mis Awst, cefais y fraint o arwain dros 60 o gerddwyr brwd o bob oed – ac ambell gi – ar daith gerdded wedi ei threfnu gan Yr Orsaf, gyda’r bwriad pennaf o rannu ychydig ar fy ngwaith ymchwil i ddiwylliant llenyddol a cherddorol Dyffryn Nantlle. Sioc oedd gweld cymaint wedi ymgasglu yn safle’r hen orsaf yn Nhal-y-sarn am 10 y bore Sadwrn hwnnw – adlais addas o’r bwrlwm a welwyd yno yn anterth yr hen ddyddiau. Diolch o galon i bawb am eu gwrandawiad ufudd i’r straeon a’r cerddi wrth i ni ymlwybro drwy bentref hynod Tal-y-sarn a chwareli Dorothea a Phen-y-bryn, i fyny ar y Llwybr Llechi i’r Fron, ac yna yn ôl i lawr heibio cyrion chwarel Penyrorsedd am baned a chacen gan Poblado yn y Barics yn Nantlle.

Gorsaf brysur Tal-y-sarn (Gorsaf Nantlle) ar droed yr ugeinfed ganrif – a’r man cychwyn ar gyfer ein taith ni dros ganrif yn ddiweddarach.

 

I’r rhai ohonoch chi oedd methu bod gyda ni, dyma flas ar rai o’r hanesion a’r atgofion fu’n cadw cwmni i ni ar y daith.

 

1. Ffordd Bryncelyn, Tal-y-sarn

Dyma gychwyn drwy ddilyn llwybr yr hen dramffordd – oedd yn cysylltu’r chwareli â’r orsaf – ar hyd Ffordd Bryncelyn i gyfeiriad Capel Mawr a chwarel Dorothea. Ar y darn byr yma o’r ffordd, roeddem yn pasio nifer o safleoedd sy’n dyst i’r bywiogrwydd diwylliannol a fodolai yn y Nant;

  • Cofeb R. Williams Parry, Bardd yr Haf, a groesawyd adref o Eisteddfod Bae Colwyn 1910 gan orymdaith fawreddog yn yr orsaf;
  • Cwt Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, band a gychwynnodd fel ‘Penyrorsedd Brass Band’ yn 1865. Yn syml, pan fyddai mynd ar y chwareli, byddai mynd ar y Band!
  • Glyndŵr, cartref y nofelydd a’r dramodydd cenedlaetholgar Wil John Ffred (William John Davies, 1890-1957), fu’n gyfrifol am sefydlu cwmni drama enwog Tal-y-sarn yn 1928;
  • Hen safle ‘gwesty dirwestol’ Tal-y-sarn, ‘tŷ coffee’ a agorwyd ym mis Ionawr 1901 gyda gwahanol ystafelloedd i ddarllen ‘ac i gael difyrion’ chwedl adroddiad Yr Herald Cymraeg. Dyma le fyddai R. Williams Parry yn mynd i chwarae biliards!
  • Cloth Hall, cartref Gwilym R. Jones, a siop bapurau newydd oedd yn cael ei redeg gan ei fam, Ann. Hawdd dychmygu Gwilym a’i frawd Dic yn gwerthu papurau ar y stryd i’r chwarelwyr wrth iddyn nhw gerdded adref ar nos Wener tâl.
Ffordd Bryncelyn, Tal-y-sarn – y ‘gwesty dirwestol’ yw’r adeilad cyntaf ar y chwith, ac fe welwn y wagenni llechi’n cael eu tynnu o’r chwarel i’r orsaf gan geffyl ar hyd y dramffordd ar y dde.

 

2. Capel Mawr

Mae mawredd Capel Mawr, capel John Jones Tal-y-sarn, sy’n codi i’r entrychion uwchben Ffordd Nantlle, yn amlwg hyd heddiw. Mae’n debyg mai prif atyniad y Dyffryn ar ddydd Iau Dyrchafael fyddai Eisteddfod Tal-y-sarn o dan nawdd y Capel. Byddai’r chwareli’n segur am y prynhawn a’r Seindorf yn perfformio rhwng y cystadlaethau. Ac nid cystadlaethau cerddoriaeth a barddoniaeth yn unig. Gwelwn fod adran gelfyddyd rhaglen 1904 wedi cynnwys creu cabinet (o goed neu lechfaen), inkstand (oll o lechfaen) a phâr o hosanau (ribs, navy blue). Roedd nifer o gystadlaethau’n canolbwyntio’n benodol ar grefft y chwarelwyr, gan gynnwys ‘Gwneud “Bill chwarelyddol”’ (tynnu allan y make, prisio’r cerrig, gweithio poundage, gweithio mesur craig a mesur agor) a naddu a hollti llechi – i weithwyr o dan a thros 20 oed.

Yr olygfa yn ôl am Dal-y-sarn – a’r Capel Mawr – o ben yr hen Bont Fawr, tua 1910. Mae Chwarel Cloddfa’r Coed ar y dde a thai ac injan Pen-yr-yrfa ar y chwith. Hawdd yw gweld llwybr y dramffordd hefyd.

 

3. Plas Dorothea a’r hen lôn

Ymlaen â ni ar hyd yr hen lôn drwy chwarel Dorothea, gan ddod at adfeilion Plas Talysarn. Hon oedd y brif ffordd o Dalysarn i Nantlle nes mis Ionawr 1924 pan ddisgynnodd darn ohoni i Dwll Coch Dorothea. Am dros ddwy flynedd, doedd dim cysylltiad trafnidiaeth rhwng y ddau bentref; bu’n rhaid i unrhyw gerbydau angladdau o Nantlle deithio i’r mynwentydd ym Mhenygroes a Llanllyfni drwy Ddrws-y-coed, Betws Garmon, Waunfawr a Chaeathro! Daeth hynt a helynt adeiladu’r ffordd newydd – y ffordd sy’n gyfarwydd iawn i ni heddiw – yn un o brif bynciau trafod a dadlau’r 1920au. Yn y diwedd, dechreuwyd ar y gwaith ym mis Hydref 1925, ar gost o tua £32,000, ac fe deithiodd trafnidiaeth arni am y tro cyntaf ym mis Mawrth 1927. Daeth Joseph Hughes (tad Mathonwy Hughes) yn fuddugol gyda chân ddisgrifiadol i’r ffordd newydd yng Nghylchwyl Lenyddol a Cherddorol Tanrallt ddiwrnod Nadolig 1926:

Cychwyna ger y Station

Trwy domen Gloddfa Glai

A Phont yn croesi’r afon

Un gampus a dim llai,

Ymlaen trwy gors Dolbebi

Gan groesi’r hên ffordd draw,

Ac yma’r â trwy dir Tŷ Mawr

I Gwernor wedyn draw.

 

Trwy ganol tŷ yr hên John Horn

I dir Tŷ Coch mae’n dod,

Draws ochrau’r Ffridd, trwy’r dolydd â

I Nantlle, dyna’i nôd.

Yr hen lôn i Nantlle yn mynd heibio mynedfa Plas Talysarn ar gyrion chwarel Dorothea

 

4. Llwybr Llechi a Chwarel Penyrorsedd

I fyny â ni ar ddarn o’r Llwybr Llechi drwy chwarel Penybryn i gyrion twll chwarel Penyrorsedd, a’r Mynydd Mawr yn ein croesawu’n gadarn yn y pellter. Addas iawn ydi geiriau Griffith Francis wrth ganu am ‘Y “Mynydd Mawr” a Minnau’:

Oesol yw lliw ei borffor wallt,

Minnau a’m gwallt yn gwynnu;

Disglair ei darian gref i’r drin,

Minnau ŵr crin yn crynu.

Gweithwyr yn chwarel Penyrorsedd oedd Griffith a’i frawd Owen ac yn rhan o gwmni diwylliedig caban Ponc yr Office. Fe nodwyd yn yr Herald ym mis Ebrill 1934;

Ceir yno eisteddfodwyr eiddgar, Y Brodyr Francis, Gwynfab, Bryneithin, Alaw Cadfan a llu eraill o aelodau yr Orsedd ym Mhenyrorsedd. Pob chwarel yn y Dyffryn, ‘dos dithau a gwna yr un modd.

Gellir ychwanegu enwau Bob Owen Drws-y-coed, cyfeilydd y Brodyr Francis, Brynfab, bardd o Gapel Bryn a’r adroddwr R. Christmas Jones, Gwerinfab, o Ben-y-groes at y rhestr uchod. Dim syndod bod gan y caban eu parti canu eu hunain – Parti’r Rybelwyr.

‘Y “Mynydd Mawr” a (N)innau’ (Awst 2021)

 

5. Y Fron

Balch iawn oedd pawb o gyrraedd y tir gwastad unwaith eto ym mhentref y Fron, gan fwynhau’r golygfeydd dros Grib Nantlle. Cyfle i bwyntio i’r pellter at furddun Brynllidiart sy’n cuddio yn y caeau rhwng y Cymffyrch a Chraig Cwm Silyn, lle ganed a magwyd y ddau brifardd – Silyn a’i nai Mathonwy Hughes. Dyma roi enw ac wyneb i fardd o’r Fron a ddaeth yn agos at ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1971, sef Lisi Jones (1901-1991). Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a threulio cyfnod fel morwyn yn Lerpwl – lle’r oedd hi’n bresennol yn seremoni’r Gadair Ddu yn 1917 – cyn dod yn ôl i fyw i’r pentref a gweithio yng Nghaernarfon. Ei thad ddysgodd hi i farddoni pan oedd hi’n ferch ifanc.

 

6. Tŷ Nant

Wrth ymlwybro drwy’r caeau i lawr i Nantlle cafwyd cyfle i adrodd hanes Tŷ Nant, hen dŷ Cymreig 350 oed a gladdwyd o dan rwbel Chwarel Penyrorsedd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae’n debyg y byddai’r safle ar un adeg yn Llys a Gorsedd y Tywysogion Cymreig ac yn gartref i Tudur ab Engan, Arglwydd Baladeulyn a disgynnydd i’r Tywysog Owain Gwynedd. Symudodd Y Brodyr Francis a’u chwaer Annie i gadw Tŷ Nant tua 1896, cyn cael gorchymyn i adael yn 1903. Cofnodwyd y mudo yng ngherdd Griffith Francis, ‘Chwalu’r Nyth’:

Dan lenni’r nos trwy niwl a tharth

Tros drum Y Garth dychwelais,

A’r hen Dŷ Nant a’i simnai fawr,

Yr olaf awr, ffarweliais;

Mewn newydd Lys, mwyn annedd lon,

Y ganig hon a genais.

Adeiladwyd dau dŷ newydd yng nghanol pentref Nantlle – Tŷ Nant a Llys Alaw – i Griffith, Owen ac Annie a’r teulu Hughes oedd hefyd wedi cael gorchymyn i adael Tŷ Nant Uchaf.

Mae’r map cyntaf yn dangos Tŷ Nant ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyrion chwarel Penyrorsedd. Yn yr ail fap fe welwn yr un ardal mewn cyfnod diweddarach – a Tŷ Nant wedi ei gladdu o dan rwbel y chwarel.

 

7. Nantlle

‘Yr unig bentref hardd yn Nyffryn fy mebyd, rwy’n ofni!’ oedd geiriau Gwilym R. Jones am Nantlle, pentref a ddatblygwyd yn bennaf ar ôl i W. A. Darbyshire ddod yn rheolwr ar chwarel Penyrorsedd yn y 1860au. Adeiladwyd Tai Penyrorsedd, Tai Kinmel a Thai Baladeulyn i’r gweithwyr. Dyma stopio dros ffordd i’r Capel, i dynnu sylw at y darn o dir comin lle byddai plant Nantlle yn ymgynnull ymhob tywydd – i gicio pêl, i gystadlu mewn mabolgampau, i chwarae criced. Yma y byddai’r sipsiwn yn aros i werthu eu llestri wrth deithio drwy’r pentref. Mae’r darn o dir wedi’i fawrygu a’r atgofion wedi eu cadw mewn cerdd arall gan Griffith Francis, ‘Y Cae Bach’:

Cae bach, bach, bach, bach,

Hen Arena iach, iach, iach;

Corlan bendith oedfa’r bora,

Lle bu cenedlaethau’n chwara;

Chwara ‘hwb-a-llam-a-naid,’

Chwerthin, canu, llyfu’r llaid;

Cae bach, bach, bach, bach.

Mae’n addas iawn bod cae chwarae pwrpasol yma bellach.

Llun o bentref Nantlle wedi ei dynnu o uwchben Tai Nantlle – mae’r llyn a’r Capel yn amlwg yn y pellter a’r Barics yn y gornel isaf ar y dde.

 

8. Y Barics

Adeiladwyd y Barics hefyd fel rhan o’r buddsoddiad yn chwarel Penyrorsedd yn y 1860au, wedi eu codi ar ddarn o dir oedd yn perthyn i iard fferm yr hen Dŷ Mawr. Mae’n debyg iawn mai dyma’r unig farics yng ngogledd Cymru sydd wedi goroesi y tu allan i’r chwareli eu hunain. Byddai 5 tŷ bychan ar yr ochr ddwyreiniol ac ystablau a beudai ar yr ochr orllewinol. Roedd hen fugail, John Jones, a Nel ei gi, yn arfer byw yn Rhif 3, hen frawd caredig a oedd wastad â chetyn yn ei geg ac yn cadw nicos a chaneris yn ei ystafell fyw. Mae ‘Siôn y Bugail’, fel ei gyfeillion Griffith Roberts, Tŷ Mawr a William Hughes, y Ffridd, a nifer o gymeriadau gwreiddiol pentref Nantlle, hefyd wedi eu hanfarwoli yng ngherddi niferus Griffith Francis.

Paned Poblado cyn tynnu tua’r terfyn

Diolch o galon i Poblado am y croeso, i Osian am yr adloniant ac i griw Yr Orsaf am drefnu a stiwardio. Bydd rhaid dechrau cynllunio’r daith nesaf rŵan … lle awn ni?

Diolch i chi gyd am eich cwmni – cadwch lygad am fanylion y daith nesaf.

 

Ymunwch â’r sgwrs

Ceridwen
Ceridwen

Difyr iawn.😀

angharad tomos
angharad tomos

Gwych o erthygl, da cael cofnod o’r daith.