Dim ipad? Dim laptop? Dim problem!

greta
gan greta

Mewn ymgais i helpu pobl sydd methu cael mynediad i’r wê, ddim yn gallu gwneud galwad fideo neu sydd ddim yn berchen ar declynnau digidol, mae tîm Yr Orsaf wedi sefydlu cynllun newydd.

Mae cadw mewn cysylltiad hefo’n teulu a ffrindiau yn bwysicach nag erioed ar hyn o bryd. Ydy, mae codi’r ffôn yn ffordd sydyn a hawdd o gael sgwrs, ond weithiau mae’n braf gallu gweld wyneb cyfarwydd hefyd.

Beth yw’r cynllun?

Cynllun ‘Cadw mewn cyswllt’ sydd wedi ei sefydlu er mwyn rhoi cyfle i bobl sydd ddim yn berchen ar declyn digidol, neu sydd ddim yn gwybod sut i’w ddefnyddio, i gysylltu â’u teuluoedd neu ffrindiau a’u gweld ar y sgrîn.

Mae’r cynllun yn cael ei arwain gan dîm Yr Orsaf yn dilyn derbyn grant gan Gronfa Grantiau Bychain Mantell Gwynedd sydd wedi eu galluogi i brynu ipad newydd ar gyfer y cynllun.

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Gall unrhyw un sydd heb declyn digidol e.e. ffôn clyfar, gliniadur, cyfrifiadur, ipad neu dabled neu dim mynediad i’r wê ddefnyddio’r wasanaeth hwn.

Cysylltwch â Elliw (manylion cyswllt isod) i ddweud yr hoffech gael slot a byddwn yn trefnu amser cyfleus gyda chi er mwyn dod draw a gosod yr ipad yn eich gardd neu o flaen eich drws ar gyfer gwneud yr alwad.

Byddwn ni’n delio â’r ochr dechnegol ac yn gwneud yr alwad i chi gan sicrhau cadw pellter o 2m.

Nid oes angen i chi gael cyfeiriad e-bost na rhif ffôn i wneud hyn gan bod yr alwad yn cael ei wneud o dan enw a manylion Yr Orsaf. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw mwynhau a siarad gyda’ch anwyliaid dros y sgrîn. Mae pob ‘slot’ wedi ei gyfyngu i hanner awr.

Am fwy o wybodaeth neu i holi am ‘slot’, cysylltwch â Elliw ar:

Ffôn: 07529 222670 / ebost: elliw@yrorsaf.cymru