Taith gerdded Dinas Dinlle

Cyfle i grwydro Dinas Dinlle ar ddydd Sul, Rhagfyr 22fed am 1pm

gan Llio Elenid
dinas-dinlle-22.12-facebook-1

Buodd rhaid i ni ohirio’r daith gerdded yn Ninas Dinlle ddydd Sul diwethaf, oherwydd storm Darragh! Felly da ni wedi ei ail-drefnu ar gyfer prynhawn dydd Sul, 22 Rhagfyr, am 1pm. Taith o tua awran yn mynd am dro o amgylch Dinas Dinlle, gan obeithio am dywydd sych a machlud haul gwefreiddiol, a panad i ddilyn! Mae’r tywydd yn gallu bod yn ansefydlog adeg yma o’r flwyddyn felly gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd – bydd angen dillad cynnes, cot law ac esgidiau cerdded sy’n dal dŵr (pwysig iawn!) – lapiwch yn gynnes!

Byddwn yn cyfarfod tu allan i’r toiledau a’r cae swings ger y maes parcio am 1pm. Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle cysylltwch efo llioelenid.yrorsaf@gmail.com

Dweud eich dweud