“Cardiau, blodau, cariad, a dagrau” – Teulu Ogunbanwo yn diolch am gefnogaeth y gymuned leol

Ar ôl i 40 o bobl helpu i lanhau’r graffiti hiliol mae cynlluniau i baentio murlun cymunedol yno.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Maggies Exotic Foods

Ar ôl i graffiti hiliol gael ei baentio ar ei heiddo mae Margaret Ogunbanwo wedi diolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth.

Yn fuan ar ôl i bobol ddod ynghyd i lanhau’r graffiti hiliol oddi ar wal y Red Lion brynhawn dydd Llun (Mehefin 15), daeth côr pop-yp ynghyd tu allan i Gapel Soar i ddangos eu cefnogaeth i’r teulu.

Mae Margaret Ogunbanwo hefyd wedi croesawu cynlluniau’r cyngor i adael i’r gymuned leol ym Mhenygroes i baentio murlun dros y graffiti hiliol.

Dywedodd Margret Ogunbanwo sydd yn rhedeg cwmni Maggie’s Exotic Foods fod yr ymateb wedi bod yn rhyfeddol, a bod y cynnydd mewn archebion bron a’i “lleddfu”.

“Rydym ni wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gymuned leol. Cardiau, blodau, cariad, a dagrau,” meddai wrth Golwg360.

“Mae rhai pobol wedi annog pobol eraill i gefnogi fy musnes. Mae wedi bod yn dipyn o beth.

“Rhaid i mi ddiolch i ogledd Cymru – a’r ffordd maen nhw’n trin busnesau bach – am rywfaint o fy llwyddiant.

“Rydym ni, y busnesau bach, yn derbyn cefnogaeth anhygoel.

“Dw i wedi cael cymaint o gyfleoedd go iawn i fod yn berson busnes yma. Felly mae Penygroes yn bwysig iawn i mi.

“Dw i’n creu cynnyrch Affricanaidd unigryw yng ngogledd Cymru. Mae [Penygroes] yn rhan annatod o beth dw i’n ei wneud.”

Darllenwch gyfweliad llawn Margaret Ogunbanwo yn fuan yng nghylchgrawn golwg neu ar golwg+

Cymuned Penygroes yn dod ynghyd i lanhau’r graffiti hiliol

Cefndir Maggie’s Exotic Foods

Cafodd Margaret Ogunbanwo ei magu yn Nigeria, a sefydlodd ei busnes, Maggie’s Exotic Foods yn 1997 tra’n byw yn Essex.

Ysbrydolwyd y busnes gan angerdd Margaret Ogunbanwo am ei threftadaeth Affricanaidd, a’i chariad at fwyd a choginio. Mae’r cwmni yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch cartref, cynhwysion egsotig, gan gynnwys cymysgeddau sbeis, sawsiau a phastau.

Symudodd Margaret Ogunbanwo a’i theulu i Benygroes yn 2007.

Dechreuodd werthu bwyd Affricanaidd mewn marchnadoedd ffermwyr lleol, yn dilyn cefnogaeth ymgynghorol ac ariannol gan Busnes Cymru cafodd ei hysbrydoli i agor caffi.

“Fy moment mwyaf balch mewn busnes oedd dod i Ogledd Cymru lle gwelais fod yna nifer o gyfleoedd, cymorth a chefnogaeth i unrhyw un sydd â chymhelliant entrepreneuraidd” meddai Margaret Ogunbanwo.

Pan symudodd y teulu i Benygroes aeth Margaret Ogunbanwo ati i ddysgu’r iaith Gymraeg.

Tra’n rhedeg caffi y Grochan Flasus ym Mhenygroes roedd hi’n defnyddio’r iaith bob dydd, ac yn gweld yr iaith yn ddefnyddiol wrth fynd i wyliau bwyd ledled Cymru.

Apelio am wybodaeth

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth.

Dywedodd yr Arolygydd Jon Aspinall: “Ar adeg pan fo hiliaeth yn bennawd newyddion, mae’n annerbyniol bod aelodau o’n cymuned yn cael eu targedu yn y ffordd hon.

“Rydym yn trin pob trosedd casineb yn ddifrifol iawn, ac os gall unrhyw un ein helpu i adnabod y person hwn, bydd yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Mae’r heddlu wedi rhyddhau’r llun isod, ac wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101, neu ffonio CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Condemnio’r weithred hiliol

Mae Sian Gwenllian Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi condemnio’r weithred hiliol, gan ei disgrifio fel gweithred “atgas o gasineb hiliol”.

“Mae’n anodd credu sut a pham y byddai person yn mynd ati yn holl bwrpasol i gario allan y weithred hiliol hon” meddai.

“Pam yn y byd y byddai un bod dynol yn credu fod ganddo ’r hawl i ddiraddio person arall dim ond am mai du yw lliw eu croen?

“Fedra i ddim ateb y cwestiwn hwn.

Yn ôl Sian Gwenllian mae hyn yn tanlinellu fod hiliaeth ym mhob man.

“Mae yn ein cymunedau. Mae ymhlith ein pobl” meddai.

“Nid mater wedi ei gyfyngu i Minneapolis a’r heddlu yn yr Unol Daleithiau. Nid yw wedi ei gyfyngu i’r carfannau de-eithafol fu’n ymgasglu yn Parliament Square Llundain penwythnos diwethaf.

“Yn anffodus, mae o yn ein plith yma yn Arfon ac mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i roi stop arno yn syth.

“Mae’n rhaid i ni gyd fod yn rhan o’r ymdrech enfawr sydd ei  hangen fel nad oes raid i’r un teulu arall wynebu’r hyn mae’r teulu Ogunbanwo wedi ei ddioddef ym Mhenygroes.”