gan
Ben Gregory
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/5/2020/06/glanhau2-640x396.jpg?532)
Aeth dros 40 o bobl i’r Red Lion bore ma, i helpu glanhau’r graffiti erchyll o dy teulu Ogunbanwo. Y person gyntaf i ddechrau’r glanhau oedd un o drigolion y pentref, Chris Schoen. Roedd teulu Chris yn rhoi lloches i Iddewon yn yr Iseldiroedd yn ystod meddiant y Nazis, felly addas iawn ydoedd i Chris arwain cael gwared o’r swastika o Benygroes.