Gig cyntaf yn Yr Orsaf!

Mi fydd Caffi’r Orsaf ym Mhenygroes yn cynnal ei gig cyntaf mis nesaf!

greta
gan greta

Mi fydd Caffi’r Orsaf ym Mhenygroes yn cynnal ei gig cyntaf mis nesaf!

Mae’r fenter cymunedol yn mynd o nerth i nerth gyda’r caffi’n denu cwsmeriaid yn ddyddiol ac wedi bod yn brysur iawn ers ei agoriad ym mis Chwefror eleni.

Erbyn hyn mae’r Ystafell Ddigwyddiadau wedi agor ei ddrysau hefyd felly mae’n gyfle gwych i gynnal noson o adloniant i bobl y Dyffryn!

Bydd noson o ganu gan Elidyr Glyn o’r band poblogaidd Bwncath ynghyd â’r gantores ifanc Gwenno Fôn ar yr 2il o Dachwedd.

Tocynnau ar werth yn Yr Orsaf neu gallwch ffonio/ tecstio ar: 07410 982467 i archebu lle.

Welwn ni chi yna!