Plac Coffa

Dadorchuddio plac yn Y Fron

Anwen Harman
gan Anwen Harman

Dadorchuddiwyd plac y dynion o Ddyffryn Nantlle a roddodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd yng Nghanolfan y Fron ddydd Sadwrn Tachwedd 9fed 2024.

Arweiniwyd y Gwasanaeth gan y Parchedig Marcus Robinson gyda cherddoriaeth gan Seindorf Arian Dyffryn Nantlle ac yna cacen a phaned wrth gwrs.

Cefnogwyd y plac gan y Llewod, y Masons, y Cyngor Cymuned, busnesau lleol a thrigolion Dyffryn Nantlle a brynodd gacennau ym Marchnad Lleu ym Mhenygroes.

Mae’r plac yn coffáu’r holl ddynion a gollwyd ond gyda sôn arbennig am y saith deg un chwarelwr o Ddyffryn Nantlle.

Crëwyd y delweddau o’r hollti llechi a’r sodr gan Kar Rowson, artist lleol ac engrafwyd y llechen gan Roger o Gwmni Inigo Jones.

Bydd y placiau’n cael eu gosod ar wal Ty’r Ysgol yn y pentref fel bod trigolion lleol ac ymwelwyr â’r ardal yn gallu gwerthfawrogi’r gofeb.

Dweud eich dweud