Ti a Fi Penygroes

Tymor newydd a ffrindiau newydd

gan Anna Yardley Jones

Daeth criw da iawn i sesiwn cyntaf y tymor.

Roedd yn braf cael croesawu ffrindiau newydd i’n plith.

Buom yn brysur yn canu, gwrando ar storiau yn ymwneud â thân gwyllt a chwarae a rhoi y byd yn ei le!

Bu ambell un yn grefftus yn gwneud llun coelcerth efo sialc ac inc.

Diolch i bawb am gefnogi. Mae’r sesiyna yn llawn unwaith eto ond mae’n werth rhoi eich enw ar y rhestr aros gan fod ambell un yn canslo am wahanol resymau.

bookwhen.com/tiafi