Seiat ym Mhant Du bron â gwerthu allan!

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn mentro allan o Dre

Ar Goedd
gan Ar Goedd
464794537_861125639513581

Ar 22 Tachwedd bydd noson hwyliog i godi pres at Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal yn Pant Du, Penygroes!

Nid dim ond pobol Caernarfon sy’n mwynhau’r ŵyl bob blwydydn, ac ym mis Mai bydd cannoedd o bobol y Dyffryn yn mentro draw i Dre am wledd. Ond mae’r ŵyl yn costio i’w chynnal, ac mae’r pwyllgor yn amcangyfri y bydd costau’n cyrraedd £60,000 a mwy leni.

O’r herwydd mae’r ŵyl yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau codi pres, ac yn eu plith mae sesiwn blasu gwin arbennig yng nghwmni Rich Wyn, Pant Du gyda chaws a bisgedi a set o ganu gwlad gwych gan Gethin Fôn a Glesni Fflur o Ddyffryn Nantlle.

Mae pris tocyn yn £20, ac mae cludiant bws ar gael o Gaernarfon ac yn ôl am £5 y pen, wedi’ noddi gan Teithiau Elfyn Thomas Tours.

Dim ond llond dwrn o docynnau sydd ar ôl felly’r cyntaf i’r felin fydd hi! Dilynwch y ddolen hon.