Brenhines ein Llên

Noson ‘Kate yn ei geiriau ei hun’ ym Mhenygroes

gan Llio Elenid
hanes-rhosgadfan-kate-roberts

Os cawsoch flas ar y cyflwyniad o Kate Roberts yn Ysgol Dyffryn Nantlle fis Medi dyma gyfle arall i glywed detholiad o waith Brenhines ein Llen. Cynhelir y noson am 7pm yng Nghapel y Groes, Penygroes ar nos Fawrth, 12 Tachwedd. Bydd rhai o Ysgol Dyffryn Nantlle yn cymryd rhan, a nifer o drigolion y Dyffryn. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur.