Pwt o hanes Penygroes

Bach o’r hanes sydd ar hyd llwybrau cerdded Penygroes

gan Llio Elenid
WhatsApp-Image-2024

Y Neuadd Goffa 

Rydym yn cychwyn ger y Neuadd Goffa sydd yn sefyll ers 1867, ar dir Ystad Bryncir. Nhw oedd yn berchen ar lawer o’r tir lle mae’r pentref yn sefyll heddiw, ac ar fap y degwm gwelwn mai Joseph Huddart, a brynodd yr Ystad ym 1809, fo oedd perchenog y ffermydd lle byddwn yn cerdded.

Ychydig ar ôl ei chodi, yn mis Mai 1868 (156 o flynyddoedd yn ôl!) roedd hysbyseb yn y papur gan John Griffiths o’r Prince of Wales Inn, a Henry Jones, yn datgan eu bod wedi cymeryd y Neuadd newydd ar ddydd sadwrn i werthu “ymenyn, caws, cig a tatws”. Ac eleni, mae marchnad Lleu wedi symyd yma, yn gwerthu nwyddau lleol un sadwrn y mis.

O gwmpas Sgwar y Farchnad tua run adeg, roedd 18 o siopa, yn cynnwys becws Joni Baker, Hugh Jones, yr injan doctor, shop baco yn Corwen House, dyn rhwymo llyfrau, dau Gaffi a dwy shop chips.

Ffordd Haearn Bach

Fel mae’r enw yn cyfleu, yma roedd y ffordd haearn i gario llechi o chwareli y Dyffryn i’r Cei yng Nghaernarfon. Agorwyd yn 1828 ar gost o £20,000 fel gwellhad ar ffordd o gludo y llechi. Roedd llawer o’r llechi yn malu yn y troliau pren ar y ffyrdd anwastad i Bonc y Foryd, lle roedd y porthladd gwreiddiol. Bu y ffordd haearn yn cario teithwyr am gyfnod byr, tua 1856, ac yn ôl y sôn adeilad Yr Orsaf heddiw oedd yr arosfan ar eu cyfer.

Gallwn gerdded ar hen lwybr y Tren bach heibio Hen-dy, i ben draw caeau Garreg Wen Isaf, lle roedd Junction Tyddyn Bengam. Yma roedd y lein bach am gyfnod yn cwrdd a’r lein newydd i Gaernarfon, i drosglwyddo’r llechi drosodd. Ym 1870 creodd y LNWR – y London North Western Railway – y gangen o’r lein fawr o Benygroes i Talysarn, codwyd y cledrau o ffordd haearn bach a ffordd y sir, a daeth swn y tren bach i ben.

Garreg Wen

Yng nghaeau Garreg Wen Isaf mae’r llwybr yn troi fyny am Spokane ac rydym ar derfyn Plwyf Llanllyfni. Yn Cyfrifiad 1861 mae tair fferm o’r enw Garreg Wen; mae teulu o wyth yn un, yn ffermio 10 Acer a’r pen teulu yn gwerthu nwyddau hefyd. Roedd tri gwas ganddynt. Yn y llall, mae teulu o ddeuddeg yn ffermio 12 acer, ac wedi symyd yma o’r Foel yn Llanllyfni lle roeddynt yng nghyfrifiad 1851. Yn y trydydd Garreg Wen, chwarelwr a’i deulu o chwech. Felly dipyn go lew o bobl ar hyd ein llwybr, a oedd yn mynd lawr tuag at Penbryn Mawr a Glynllifon.

Treddafydd

Wrth basio Spokane cawn edmygu yr hen gwt gwair tô crwn a’r adeiladau eraill ar y fferm. Rydym yn dod allan i’r lôn fawr wrth Treddafydd – y rhesiad o dai – codwyd y tai ym 1837, ac maent yn un o’r rhesi diwydianol cynharaf yng Ngwynedd. Roedd y toeau gwreiddiol wedi eu gwneud o lechi bras Chwarel Gloddfa’r Lôn; sylwch ar y darnau llechi anferth sydd dan draed, ac mae afon fach, Ffrwd Garreg Wen yn llifo odditanynt.

Croesi yn ofalus rwan, a mynd at pen pellaf y pentref. Sylwch ar y Garreg filltir yn y wal yn dynodi sawl milltir i Caernarfon a Tremadog. Mae wedi ei gosod cyn adeiladu y Cob a Porthmadog, pan oedd y ffordd yn rhedeg drwy Llwyn y Fuches am Rhyd Ddu.

Gwynfa a Garth Dorwen

Tu nôl ni mae Gwynfa, un o dafarndai gyntaf Penygroes; Roedd naw Tafarn yma ar un adeg, a chwech chapel. Mae ffarm i lawr yn fana ar y chwith ar y lon fawr, Garth Dorwen. Dyma fferm sy’n gysylltiedig â stori’r tylwyth teg lle aiff hen wreigan o’r byd hwn i fod yn fydwraig i un o wragedd y tylwyth teg. Roedd gŵr a gwraig oedrannus yn byw ar ffarm Garth Dorwen. Roedd angen morwyn arnynt, felly aethant i ffair g’langaeaf yng Nghaernarfon, a chyflogi merch o’r enw Eilian. Roedd hi’n forwyn benigamp, yn nyddu ar ôl swper yn hirnos y gaeaf, ac yn mynd i’r weirglodd i nyddu yn olau’r lleuad, ble daw’r tylwyth teg ati i’w helpu. Rhan o’r fargen bod Eilian yn derbyn cymorth y tylwyth teg oedd ei bod yn priodi un ohonynt; ac un diwrnod fe’i chipiwyd hi i ffwrdd ganddynt. Roedd gwraig Garth Dorwen yn fydwraig ac ymhen amser, daeth gŵr diarth i’w mofyn gan fod ei wraig ar fin rhoi genedigaeth, ac aethant i Ros y Cowrt, ac yna i ogof ger Bryn y Pibion, ble’r oedd yr ystafell grandiaf a welodd y wraig erioed. Cafodd y babi ei eni’n ddiogel a gorchmynnwyd yr hen wreigan i iro llygaid y babi ag eli mewn potel, ond i fod yn ofalus i beidio â chyffwrdd ei llygaid hi â’r eli. Ond wrth gwrs, dyna ddigwyddodd wedi i’w llygaid ddechrau cosi, ac efo’r llygaid hynny wedyn fe welodd ogof fudr, damp ac Eilian ei chyn-forwyn yn gorwedd ar redyn ar y llawr. Rhith y Tylwyth Teg yn unig oedd y plas crand. Gyda’i llygaid chwith o hynny ymlaen gallai’r hen wreigan weld y tylwyth teg. Hynny tan iddi weld gŵr Eilian yn y farchnad yng Nghaernarfon un diwrnod, ac fe dynnodd ei llygaid chwith allan â brwynen, i stopio iddi eu gweld mwyach.

Llwyndu

Dani wedi mynd yn ein blaenau i fyny y llwybr am Tyddyn Bychan a Llwyndu. Dros y gamfa i’r cae ac i fyny’r allt nesa at fferm Llwyndu bach. Byddwn yn anelu am yr adeiladau yng nghefn Llwyndu Mawr ac allan am ffordd Carmel. Eto, Ystad Brynkir oedd berchen ar y tyddynod, ac wrth gwrs mae Bro Llwyndy a Ffordd Llwyndy ar dir y ffermydd. Mae mynwent fawr Macpela ar y chwith, efo dros 200 o englynion ar y cerrig beddi. Cyn mynd am Lôn Carmel mae’n werth troi ac edrych nol tuag at y môr. Mae golygfa braf yr holl ffordd o Drefor a’r Reifls ar draws Bae Caernarfon tuag at Ynys Llanddwyn. Ac wrth gyrraedd y ffordd, mae Crib Nantlle yn ein gwynebu bron ddigon aros i’w gyffwrdd.

Pant Du

Dani wedi bod yn cerdded ar hyd llwybr Bryn Awelon i Pant Du. Rydym yn cerdded yma drwy gaeau efo hen enwau fel Cae Gorlan Eithin, Cae Melynen a Cae Garw, dim syndod fod Clogwyn Melyn tu ôl i ni. Fyddwn yn dod allan yn Hen Lon Penygroes, sef yr hen brif ffordd i Dremadog, oedd yn mynd i fyny yn uchel ar ochr Drws y Coed, i Rhyd Ddu ac ymlaen drwy Aberglaslyn. Ar y tarmac am ychydig, wedyn i lawr y darn llwybr olaf heibio Pant Du. Plasdy hynafol a oedd yn gartref i deulu Tudur Goch o Nantlle, ac efo cwswllt twnel i Glynllifon medd rhai – yn smyglo?

Tolldy Pant Du a Plas Silyn

Rydym yn dod allan ar Lon Talysarn ger hen Dollty Pantdu, oedd yn arfer bod yn un o 35 yn sir Gaernarfon ar un amser. Roedd giat fawr wen ar draws y lôn a pob ceffyl a pob trol yn talu toll at gadw’r ffordd. Roedd Tolldy yn y Gelli yn Nantlle hefyd ac Rhyd Ddu. £15 a gymerwyd mewn Tollau yn Pantdu un flwyddyn, I gymharu â £265 ar Bont Seiont. Mae mwy o draffic yn dal yn fanno!

Nôl wedyn heibio Plas Silyn – canolfan hamdden Penygroes lle dwi, a lot o gyn-ddigyblion Ysgol Dyffryn Nantlle efo atgofion lu o wersi PT a traws gwlad, chwarae hoci a phêl-droed ar y cae bob tywydd a diwrnod mabolgampau, sefyll ecsams lawr grisia, ciwio am oria am ddarn o dost a gym am £1 ar nos Ferchar.

 

A dyma ni ar ddiwedd y daith, nôl ar y ffordd haearn bach oedd yn dod o Dalysarn y tu ôl i ni, tuag at Ffordd y Sir, ac am Tyddyn Bengam.

Os oes gennych fwy o hanes i’w ychwanegu yma, mae croeso i chi ysgrifennu yn y sylwadau isod.

Am fwy o wybodaeth a manylion am y daith, cliciwch yma.

Diolch i Ceridwen am yr help efo’r gwaith ymchwil.