Taith Gerdded Llwybrau Penygroes

Ffordd Haearn bach – yr Hen-dy – Garreg Wen – Spokane – Treddafydd – Gwynfa – Llwyndu – Pant Du

gan Llio Elenid

Cynhaliwyd taith gerdded drwy lwybrau cerdded o amgylch Penygroes yr wythnos hon fel rhan o ddigwyddiadau Wythnos Newyddion Annibynnol.

Mi oedd y daith yn cychwyn yn Neuadd Goffa Penygroes cyn mynd ymlaen i fyny Ffordd Haearn bach, ac wedyn ymlaen drwy lwybrau cyhoeddus am Hen-dy a Garreg Wen Isaf, fyny caeau at Spokane (gwyliwch allan am y gwartheg), allan i Treddafydd, ac ar hyd y lôn i Gwynfa, fyny drwy lwybrau cyhoeddus a chaeau at Llwyndu ac ar draws llwybrau i Pant Du, cyn cyrraedd yn ôl ar Ffordd y Sir/County Road ger yr hen dolldy a Plas Silyn.

Mae opsiwn i chi osgoi’r cae efo’r gwartheg drwy droi fyny ar hyd lôn drac Stad Tan y Coed, yn lle mynd drwy Garreg Wen Isaf, ac ymuno ar High St Penygroes a cherdded i fyny i Gwynfa.

Hefyd mae opsiwn i gwtogi’r daith drwy gerdded yn ôl i Benygroes ar Lôn Carmel, pasio mynwent Macpela, yn hytrach na chario ymlaen ar hyd y llwybrau i Bant Du.

Mae hi’n 4 km/ 2.5 milltir o daith, ac yn cymeryd ryw awran i awr a hanner i’w chwblhau yn hamddenol.

Gwyliwch y fidio uchod i chi gael blas o’r daith!

Os sa chi’n licio gwneud y daith eich hunain, mae hi fan hyn ar Google Maps –

Llwybrau Penygroes Google Maps

a fan hyn ar OS Maps –

Llwybrau Penygroes OS Maps

Cofiwch fod angen sgidiau cerdded a dillad pwrpasol i’r tywydd ar daith fel hyn sy’n mynd drwy lwybrau cyhoeddus sy’n gallu bod yn anwastad. Hefyd mae’n dir efo defaid a gwartheg yn pori, felly mae angen bod yn ofalus a dilyn y Côd Cefn Gwlad bob tro.

I ddarllen am ychydig o’r hanes ar hyd y daith hon, darllenwch yr erthygl fan hyn.