Llun y Llyn

Arwydd newydd yn Nantlle

angharad tomos
gan angharad tomos

Mae arwydd newydd wedi ei osod yn Nantlle, wrth yr arwydd llechen hardd sy’n enwi’r mynyddoedd. Llun enwog Richard Wilson, ‘Snowdon from Llyn Nantlle’ ydyw, beintwyd ym 1766. Mae’r gwreiddiol i’w weld yn Oriel Walker yn Lerpwl, ac mae hanes difyr i’r llun.

Daeth Richard Wilson i’r ardal hon ac aros efo’i gefnder yn Pant Du. Pan welodd yr olygfa fendigedig o’r Wyddfa tu ôl i Lyn Nantlle, dyma’r llun a beintiodd. Cafodd ei arddangos yn Llundain, ac ni allai pobl gredu eu llygaid.

Cyn hyn, cai Cymru, ac Eryri yn enwedig, ei hystyried yn lle gwyllt, anghyfanedd. Ond rhoddodd tirlun Wilson olwg newydd ar y lle. Pan rwystrwyd pobl rhag gwneud y Daith Fawr Ewropeaidd oherwydd Rhyfeloedd Napoleon, trodd artistiaid eu llygaid at Ogledd Cymru a dilyn ôl traed Richard Wilson. Dyna sut daeth Turner a sawl artist arall i’r fro.

Yr Orsaf sydd wedi gosod y llun yn ei le, gyda grant gan y Loteri Genedlaethol. Huw Stephens oedd wedi rhoi sylw i’r llun ar ei raglen The Story of Welsh Art.
Llynedd, cafodd pob ysgol gynradd yn y cylch gyfle i fynd at y llyn efo yr artist, Gwenllian Spink o’r Orsaf. Dysgodd y plant nad yw’r olygfa wedi newid fawr mewn 250 o flynyddoedd. Eto, o edrych i’r cyfeiriad arall, mae ‘hagrwch Cynnydd’, chwedl R.Williams Parry, wedi newid y tirwedd yn llwyr efo’r chwareli. Roedd y plant yn trafod themau diddorol megis tirlun a diwydiant a’r tenswin rhwng cyflogaeth a thwristiaeth.

Mae’n dda fod yr arwydd yn ei le cyn yr Eisteddfod fel y caiff pobl Cymru gyfle i ddod am dro i Ddyffryn Nantlle. Dewch i Nantlle ar noson glir, eisteddwch ar y fainc a mwynhau golygfa sydd wedi swyno pobl ers cyhyd.