Beirdd Dyffryn Nantlle

Arwyddion croeso

angharad tomos
gan angharad tomos

Gyda arwyddion croeso i’r Eisteddfod yn codi fel madarch mewn gwahanol bentrefi yn arwain at Foduan, mae Dyffryn Nantlle eisiau bod yn rhan o’r paratoi.

Yng nghysgod y gromlech ar gylchfan y Co-op, mae dau dderwydd yn cysgodi rhag yr elfennau. Rhyngddynt mae rhestr o feirdd y dyffryn sydd wedi ennill ers 1902. Beirdd enillodd y Gadair ar y chwith, a beirdd a enillodd y Goron ar y dde. Fu dyffryn neu fro arall efo cynifer o feirdd? Mae’n wir fod Parry-Williams wedi helpu’r rhestr yn ddirfawr drwy ennill y dwbl ddwywaith.

Tybed pwy fydd yn ennill y Gadair a’r Goron yn 2023? Tro nesaf ewch i’r Co-op, codwch law ar y ddau dderwydd. Ac os oes gennych awydd addurno eich cartref neu eich pentref, ewch ati. Fydd hi ddim yn hir rŵan!