Y Dwsin Dewr

Ymrwymo i ddysgu

angharad tomos
gan angharad tomos

Ar fore Llun, Medi 26, daeth deuddeg disgybl go angyffredin drwy ddrysau’r Orsaf ym Mhenygroes. Cychwyn eu taith oeddent i ddysgu Cymraeg, gyda Menna Jones yn athrawes. Yr hyn a’u gwna yn arbennig yw eu bod wedi ymrwymo i roi teirawr yr wythnos i ddysgu’r iaith am y 31 wythnos nesaf. Mae amrywiaeth o bobl, o wahanol lefydd, ac o wahanol gefndiroedd.

Mae pwyslais y cwrs ar siarad. Eu gwaith cartref wedi’r wers gyntaf oedd mynd i siop a siarad Cymraeg, sydd ddim yn dasg hawdd i neb ar y cychwyn. Yr help mwyaf y gall Cymry Cymraeg ei roi iddynt yw peidio troi i’r Saesneg. Y cyngor yw i siarad yn araf, ac ail adrodd os nad ydynt yn deall. Rydym oll yn euog o droi i’r Saesneg er mwyn cyfathrebu yn gynt, ond nid yw hyn o unrhyw gymorth yn y tymor hir. Felly amynedd pia hi! Caiff y cwrs ei gynnal rhwng 9.30 a 12.30 bob dydd Llun. Gobeithio y cawn ddod i adnabod y dysgwyr neu ‘siaradwyr newydd’ fel y dylem eu galw, wrth i’r tymor fynd rhagddo.