Cymdeithas Lenyddol Brynrhos Y Groeslon

gan Shirley Owen
Swper-Agoriadol-copy-2

Marlyn Samuel efo rhai o aelodau Cymdeithas Brynrhos

Swper Agoriadol

Braf iawn oedd gweld cynifer (yn aelodau hen a newydd) wedi codi allan i fwynhau’r Swper Agoriadol yn Neuadd y Pentref gydag amryw yn dweud bod yn chwith ganddynt golli’r cyfarfodydd yn ystod y clo.

Llongyfarchwyd Cen Thomas, Tyddyn Mawr ar gael ei ethol yn Lywydd Anrhydeddus. Mae Cen wedi gweithio’n ddiflino i’r Gymdeithas ers degawadau ac yn sicr yn wir haeddu’r anrhydedd. Diolch iddo a dymunwn iddo flynddoedd maith o iechyd i fwynhau ei deitl newydd.

Y wraig wadd ar gyfer y noson oedd Marlyn Samuel. O Fôn y daw Marlyn, ond tydi hi ddim yn perthyn i Alwyn Samuel er bod nifer fawr yn tybio hynny! Wedi’r gwledda rhoddodd gyflwyniad o’i gwaith. Mae deialog yn elfen gref o’i nofelau ac mae rhain yn frith o ddywediadau ffraith yr Ynys. Roedd yn hyfryd gwrando arnynt yn cael eu darllen gan yr awdures. Mae Marlyn hefyd yn ddramodwraig ac yn berfformwraig dalentog.

Noddwyd y noson gan gynllun Noson Allan Fach, Cyngor Celfyddydau Cymru.

O Ddyffryn Nantlle y daw siaradwyr gwadd mis Hydref ond thema Wyddelig sydd i’r ddwy noson.

Hydref 11eg – Angharad Tomos fydd yn trafod ei llyfr ‘Y Naill yng Ngwlad y Llall’. Cyfieithiad o’r Wyddeleg yw hanner cyntaf y llyfr. Mae’r awdur Gwyddelig yn adrodd hanes ei daith yn cerdded o amgylch Cymru. Mae ail hanner y llyfr yn gofnod o hanes taith Taid, Tad a Modryb Angharad yn teithio ar eu beics o amgylch yr Iwerddon

Hydref 25ain – Gwion Owain fydd yn sôn am ‘Gyflafan Ballymurphy’. Roedd Gwion yn aelod o dîm cynhyrchu’r rhaglen ddogfen ‘Massacre at Ballymurphy’ â enwebwyd am wobr BAFTA yn 2019

Man cyfarfod –  Neuadd y Pentref, Y Groeslon.

Amser cychwyn – 7 o’r gloch

Tâl Aelodaeth yw £10 am y tymor.

 Croeso cynnes i bawb