Mae Canolfan Greadigidol Yr Orsaf yn agor ei drysau

Lle i ddysgu codio…. a llawer mwy

gan Ben Gregory

Yng nghanol Mawrth 2020 roedd Yr Orsaf yn paratoi i agor ei chanolfan ddigidol i blant a phobl Ifanc. Ac wedyn daeth Covid. Bron i ddwy flynedd wedyn, ar nos Fercher diwethaf, o’r diwedd mae’r ganolfan “Creadigidol” wedi agor ei drysau, efo lansio Clwb Codio Yr Orsaf.

Roedd staff a gwirfoddolwyr yno i gefnogi plant a phobl ifanc efo phrosiectau codio, y tro hwn yn defnyddio Spheros. Bydd y Clwb yn helpu efo codio (efo ieithoedd Scratch a Python), a datblygu prosiectau gyda Microbits, Raspberry Pis (cyfrifiaduron bach) a Crumbles (LEDs sy’n gallu cael eu rhaglenni).

Cafodd yr adeilad ei adnewyddu gyda grant gan Llywodraeth Cymru, ac mae llawer o gyrff wedi cyfrannu at brynu offer.  Yn ogystal â hyn, rydym wedi dechrau prynu a chasglu offerynnau cerdd, i ddatblygu ein prosiect cerddoriaeth newydd. Mae adnoddau creu podlediadau yno, ac offer fideo, i ail-ddechrau Clwb Ffilm Dyffryn Nantlle.

Os ydych chi eisiau helpu, mae croeso i chi – does dim angen arbenigrwydd, dim ond bod yn frwd i gefnogi’r plant a phobl ifanc, a dysgu gyda’n gilydd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag osianr.yrorsaf@gmail.com.

Mae Siop Griffiths yn ddiolchgar i’r canlynol am gefnogi’r prosiect: Arloesi Gwynedd Wledig, CIST Gwynedd, Cronfa Iwan Huws, Llywodraeth Cymru, Welsh Slate, Ymddiriedolaeth Stadiwm y Mileniwm

Lluniau: Luke Huntly, Yr Orsaf