Blot-deuwedd yn cyrraedd y Senedd

Diolchwyd i blant Rhosgad ar lawr y Senedd

Ar Goedd
gan Ar Goedd

Mae Blot-deuwedd, ffilm fer gan ddisgyblion Ysgol Rhosgadfan wedi cyrraedd llawr ein Senedd genedaethol.

 

Mewn datganiad ar lawr y Senedd, fe ddiolchodd yr Aelod o’r Senedd dros Arfon i ddisgyblion Ysgol Rhosgadfan am roi bywyd newydd i hen chwedl yn eu ffilm fer ‘Blot-deuwedd.’

 

Mae Datganiadau 90 Eiliad yn gyfle i Aelodau Senedd Cymru wneud datganiad personol byr, ac fe gyfeiriodd Siân Gwenllian at “ffilm fer, hyfryd” disgyblion Ysgol Rhosgadfan.

  

Bythefnos yn ôl cynhaliwyd dangosiad cyhoeddus cyntaf o’r ffilm yn Galeri Caernarfon, a chyn hynny fe’i dangoswyd yn COP26 yn Glasgow.

 

Gallwch wylio’r AS lleol yn diolch i ddisgyblion Ysgol Rhosgadfan uchod.