Beiciau Trydan

Profiad newydd

angharad tomos
gan angharad tomos

Rhai dyddiau yn ôl, cefais fy mhrofiad cyntaf o fod ar feic trydan, ac fel Saul o Darsus, dwi wedi cael troedigaeth lwyr.

Go amheus ron i wrth deithio i lawr at Bont y Cim yng nghwmni Elenid Roberts, Swyddog Trafnidiaeth Yr Orsaf. Roedd yn union fel beic cyffredin nes i Elenid f’atgoffa nad oedd y batri wedi ei danio! Wedi hynny, ron i’n fflio mynd. Dydi o ddim yn fater cymhleth – ac mae’r brêcs yn gweithio fel beic cyffredin. Gwelais lesni’r mor yn Aberdesach, a galw heibio Eglwys Beuno Sant. Y prawf go iawn oedd dringo’r elltydd o Glynnog tuag at Llanllyfni. Cewch ddewis o fatri isel, canol neu uchel, sy’n gweithio gyda botwm. Sôn am newid! Gan fod yn rhaid i chi bedlo, rydych yn dal i gael ymarfer corff, ond mae o cymaint, cymaint haws.

Y newyddion da yw y bydd modd llogi’r beiciau hyn yn fuan gan Yr Orsaf, a bydd gan Elenid ddewis o lwybrau difyr ar eich cyfer. Rydym yn ffodus yn cael byw mewn lle mor hardd.