Difyr iawn.?
Ar ddydd Sadwrn yng nghanol mis Awst, cefais y fraint o arwain dros 60 o gerddwyr brwd o bob oed – ac ambell gi – ar daith gerdded wedi ei threfnu gan Yr Orsaf, gyda’r bwriad pennaf o rannu ychydig ar fy ngwaith ymchwil i ddiwylliant llenyddol a cherddorol Dyffryn Nantlle. Sioc oedd gweld cymaint wedi ymgasglu yn safle’r hen orsaf yn Nhal-y-sarn am 10 y bore Sadwrn hwnnw – adlais addas o’r bwrlwm a welwyd yno yn anterth yr hen ddyddiau. Diolch o galon i bawb am eu gwrandawiad ufudd i’r straeon a’r cerddi wrth i ni ymlwybro drwy bentref hynod Tal-y-sarn a chwareli Dorothea a Phen-y-bryn, i fyny ar y Llwybr Llechi i’r Fron, ac yna yn ôl i lawr heibio cyrion chwarel Penyrorsedd am baned a chacen gan Poblado yn y Barics yn Nantlle.
I’r rhai ohonoch chi oedd methu bod gyda ni, dyma flas ar rai o’r hanesion a’r atgofion fu’n cadw cwmni i ni ar y daith.
1. Ffordd Bryncelyn, Tal-y-sarn
Dyma gychwyn drwy ddilyn llwybr yr hen dramffordd – oedd yn cysylltu’r chwareli â’r orsaf – ar hyd Ffordd Bryncelyn i gyfeiriad Capel Mawr a chwarel Dorothea. Ar y darn byr yma o’r ffordd, roeddem yn pasio nifer o safleoedd sy’n dyst i’r bywiogrwydd diwylliannol a fodolai yn y Nant;
- Cofeb R. Williams Parry, Bardd yr Haf, a groesawyd adref o Eisteddfod Bae Colwyn 1910 gan orymdaith fawreddog yn yr orsaf;
- Cwt Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, band a gychwynnodd fel ‘Penyrorsedd Brass Band’ yn 1865. Yn syml, pan fyddai mynd ar y chwareli, byddai mynd ar y Band!
- Glyndŵr, cartref y nofelydd a’r dramodydd cenedlaetholgar Wil John Ffred (William John Davies, 1890-1957), fu’n gyfrifol am sefydlu cwmni drama enwog Tal-y-sarn yn 1928;
- Hen safle ‘gwesty dirwestol’ Tal-y-sarn, ‘tŷ coffee’ a agorwyd ym mis Ionawr 1901 gyda gwahanol ystafelloedd i ddarllen ‘ac i gael difyrion’ chwedl adroddiad Yr Herald Cymraeg. Dyma le fyddai R. Williams Parry yn mynd i chwarae biliards!
- Cloth Hall, cartref Gwilym R. Jones, a siop bapurau newydd oedd yn cael ei redeg gan ei fam, Ann. Hawdd dychmygu Gwilym a’i frawd Dic yn gwerthu papurau ar y stryd i’r chwarelwyr wrth iddyn nhw gerdded adref ar nos Wener tâl.
2. Capel Mawr
Mae mawredd Capel Mawr, capel John Jones Tal-y-sarn, sy’n codi i’r entrychion uwchben Ffordd Nantlle, yn amlwg hyd heddiw. Mae’n debyg mai prif atyniad y Dyffryn ar ddydd Iau Dyrchafael fyddai Eisteddfod Tal-y-sarn o dan nawdd y Capel. Byddai’r chwareli’n segur am y prynhawn a’r Seindorf yn perfformio rhwng y cystadlaethau. Ac nid cystadlaethau cerddoriaeth a barddoniaeth yn unig. Gwelwn fod adran gelfyddyd rhaglen 1904 wedi cynnwys creu cabinet (o goed neu lechfaen), inkstand (oll o lechfaen) a phâr o hosanau (ribs, navy blue). Roedd nifer o gystadlaethau’n canolbwyntio’n benodol ar grefft y chwarelwyr, gan gynnwys ‘Gwneud “Bill chwarelyddol”’ (tynnu allan y make, prisio’r cerrig, gweithio poundage, gweithio mesur craig a mesur agor) a naddu a hollti llechi – i weithwyr o dan a thros 20 oed.
3. Plas Dorothea a’r hen lôn
Ymlaen â ni ar hyd yr hen lôn drwy chwarel Dorothea, gan ddod at adfeilion Plas Talysarn. Hon oedd y brif ffordd o Dalysarn i Nantlle nes mis Ionawr 1924 pan ddisgynnodd darn ohoni i Dwll Coch Dorothea. Am dros ddwy flynedd, doedd dim cysylltiad trafnidiaeth rhwng y ddau bentref; bu’n rhaid i unrhyw gerbydau angladdau o Nantlle deithio i’r mynwentydd ym Mhenygroes a Llanllyfni drwy Ddrws-y-coed, Betws Garmon, Waunfawr a Chaeathro! Daeth hynt a helynt adeiladu’r ffordd newydd – y ffordd sy’n gyfarwydd iawn i ni heddiw – yn un o brif bynciau trafod a dadlau’r 1920au. Yn y diwedd, dechreuwyd ar y gwaith ym mis Hydref 1925, ar gost o tua £32,000, ac fe deithiodd trafnidiaeth arni am y tro cyntaf ym mis Mawrth 1927. Daeth Joseph Hughes (tad Mathonwy Hughes) yn fuddugol gyda chân ddisgrifiadol i’r ffordd newydd yng Nghylchwyl Lenyddol a Cherddorol Tanrallt ddiwrnod Nadolig 1926:
Cychwyna ger y Station
Trwy domen Gloddfa Glai
A Phont yn croesi’r afon
Un gampus a dim llai,
Ymlaen trwy gors Dolbebi
Gan groesi’r hên ffordd draw,
Ac yma’r â trwy dir Tŷ Mawr
I Gwernor wedyn draw.
Trwy ganol tŷ yr hên John Horn
I dir Tŷ Coch mae’n dod,
Draws ochrau’r Ffridd, trwy’r dolydd â
I Nantlle, dyna’i nôd.
4. Llwybr Llechi a Chwarel Penyrorsedd
I fyny â ni ar ddarn o’r Llwybr Llechi drwy chwarel Penybryn i gyrion twll chwarel Penyrorsedd, a’r Mynydd Mawr yn ein croesawu’n gadarn yn y pellter. Addas iawn ydi geiriau Griffith Francis wrth ganu am ‘Y “Mynydd Mawr” a Minnau’:
Oesol yw lliw ei borffor wallt,
Minnau a’m gwallt yn gwynnu;
Disglair ei darian gref i’r drin,
Minnau ŵr crin yn crynu.
Gweithwyr yn chwarel Penyrorsedd oedd Griffith a’i frawd Owen ac yn rhan o gwmni diwylliedig caban Ponc yr Office. Fe nodwyd yn yr Herald ym mis Ebrill 1934;
Ceir yno eisteddfodwyr eiddgar, Y Brodyr Francis, Gwynfab, Bryneithin, Alaw Cadfan a llu eraill o aelodau yr Orsedd ym Mhenyrorsedd. Pob chwarel yn y Dyffryn, ‘dos dithau a gwna yr un modd.
Gellir ychwanegu enwau Bob Owen Drws-y-coed, cyfeilydd y Brodyr Francis, Brynfab, bardd o Gapel Bryn a’r adroddwr R. Christmas Jones, Gwerinfab, o Ben-y-groes at y rhestr uchod. Dim syndod bod gan y caban eu parti canu eu hunain – Parti’r Rybelwyr.
5. Y Fron
Balch iawn oedd pawb o gyrraedd y tir gwastad unwaith eto ym mhentref y Fron, gan fwynhau’r golygfeydd dros Grib Nantlle. Cyfle i bwyntio i’r pellter at furddun Brynllidiart sy’n cuddio yn y caeau rhwng y Cymffyrch a Chraig Cwm Silyn, lle ganed a magwyd y ddau brifardd – Silyn a’i nai Mathonwy Hughes. Dyma roi enw ac wyneb i fardd o’r Fron a ddaeth yn agos at ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1971, sef Lisi Jones (1901-1991). Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a threulio cyfnod fel morwyn yn Lerpwl – lle’r oedd hi’n bresennol yn seremoni’r Gadair Ddu yn 1917 – cyn dod yn ôl i fyw i’r pentref a gweithio yng Nghaernarfon. Ei thad ddysgodd hi i farddoni pan oedd hi’n ferch ifanc.
6. Tŷ Nant
Wrth ymlwybro drwy’r caeau i lawr i Nantlle cafwyd cyfle i adrodd hanes Tŷ Nant, hen dŷ Cymreig 350 oed a gladdwyd o dan rwbel Chwarel Penyrorsedd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae’n debyg y byddai’r safle ar un adeg yn Llys a Gorsedd y Tywysogion Cymreig ac yn gartref i Tudur ab Engan, Arglwydd Baladeulyn a disgynnydd i’r Tywysog Owain Gwynedd. Symudodd Y Brodyr Francis a’u chwaer Annie i gadw Tŷ Nant tua 1896, cyn cael gorchymyn i adael yn 1903. Cofnodwyd y mudo yng ngherdd Griffith Francis, ‘Chwalu’r Nyth’:
Dan lenni’r nos trwy niwl a tharth
Tros drum Y Garth dychwelais,
A’r hen Dŷ Nant a’i simnai fawr,
Yr olaf awr, ffarweliais;
Mewn newydd Lys, mwyn annedd lon,
Y ganig hon a genais.
Adeiladwyd dau dŷ newydd yng nghanol pentref Nantlle – Tŷ Nant a Llys Alaw – i Griffith, Owen ac Annie a’r teulu Hughes oedd hefyd wedi cael gorchymyn i adael Tŷ Nant Uchaf.
7. Nantlle
‘Yr unig bentref hardd yn Nyffryn fy mebyd, rwy’n ofni!’ oedd geiriau Gwilym R. Jones am Nantlle, pentref a ddatblygwyd yn bennaf ar ôl i W. A. Darbyshire ddod yn rheolwr ar chwarel Penyrorsedd yn y 1860au. Adeiladwyd Tai Penyrorsedd, Tai Kinmel a Thai Baladeulyn i’r gweithwyr. Dyma stopio dros ffordd i’r Capel, i dynnu sylw at y darn o dir comin lle byddai plant Nantlle yn ymgynnull ymhob tywydd – i gicio pêl, i gystadlu mewn mabolgampau, i chwarae criced. Yma y byddai’r sipsiwn yn aros i werthu eu llestri wrth deithio drwy’r pentref. Mae’r darn o dir wedi’i fawrygu a’r atgofion wedi eu cadw mewn cerdd arall gan Griffith Francis, ‘Y Cae Bach’:
Cae bach, bach, bach, bach,
Hen Arena iach, iach, iach;
Corlan bendith oedfa’r bora,
Lle bu cenedlaethau’n chwara;
Chwara ‘hwb-a-llam-a-naid,’
Chwerthin, canu, llyfu’r llaid;
Cae bach, bach, bach, bach.
Mae’n addas iawn bod cae chwarae pwrpasol yma bellach.
8. Y Barics
Adeiladwyd y Barics hefyd fel rhan o’r buddsoddiad yn chwarel Penyrorsedd yn y 1860au, wedi eu codi ar ddarn o dir oedd yn perthyn i iard fferm yr hen Dŷ Mawr. Mae’n debyg iawn mai dyma’r unig farics yng ngogledd Cymru sydd wedi goroesi y tu allan i’r chwareli eu hunain. Byddai 5 tŷ bychan ar yr ochr ddwyreiniol ac ystablau a beudai ar yr ochr orllewinol. Roedd hen fugail, John Jones, a Nel ei gi, yn arfer byw yn Rhif 3, hen frawd caredig a oedd wastad â chetyn yn ei geg ac yn cadw nicos a chaneris yn ei ystafell fyw. Mae ‘Siôn y Bugail’, fel ei gyfeillion Griffith Roberts, Tŷ Mawr a William Hughes, y Ffridd, a nifer o gymeriadau gwreiddiol pentref Nantlle, hefyd wedi eu hanfarwoli yng ngherddi niferus Griffith Francis.
Diolch o galon i Poblado am y croeso, i Osian am yr adloniant ac i griw Yr Orsaf am drefnu a stiwardio. Bydd rhaid dechrau cynllunio’r daith nesaf rŵan … lle awn ni?