Mae Siân Gwenllïan, Aelod o’r Senedd dros Arfon, wedi canmol llwyddiant yr ymdrech frechu leol.
Wrth annerch y Prif Weinidog yn y Senedd yr wythnos hon, dywedodd bod yr ymdrechion hyn wedi bod yn “arwrol” o dan amgylchiadau “anodd dros ben”.
Fodd bynnag, cododd gwestiynau ynglŷn ag anghysondebau’r system dechnoleg gwybodaeth, sydd wedi arwain at ddryswch.
Cyfeiriodd hefyd at broblem yn ardal Dyffryn Nantlle, ble mae rhai aelodau o’r staff brechu wedi gorfod hunan-ynysu.
Hefyd fe gyfeiriodd at broblem gyda’r gwasanaeth post yng Nghaernarfon, sy’n golygu gall rhai llythyrau yn manylu ar apwyntiadau brechu gyrraedd yn hwyr.
“Rhai problemau penodol”
“Ar y cyfan maen nhw wedi bod yn hynod lwyddiannus, er gwaethaf llu o rwystrau biwrocrataidd (ac eira), ond rydw i ar drywydd rhai problemau penodol sydd wedi cael eu dwyn i’m sylw,” meddai Siân Gwenllïan.
“Rwyf wedi cael ar ddeall hefyd fod rhai problemau wedi codi mewn rhannau o’r etholaeth, gan gynnwys Dyffryn Nantlle, oherwydd bod staff yn gorfod hunan-ynysu yn dilyn achosion Covid.
“Rwyf hefyd yn ymwybodol o broblemau gyda’r gwasanaeth post yng Nghaernarfon sy’n golygu y gall rhai llythyrau apwyntiad fod yn araf yn cyrraedd.
“Hoffwn sicrhau etholwyr Arfon fy mod innau a’m cyd-weithiwr Hywel Williams AS yn codi’r pryderon hyn gyda’r Post Brenhinol a gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. ”
Anghysondebau’r system dechnoleg
Aeth hi ymlaen i godi pryderon ynghylch anghysondebau ymarferol hefyd, gan gyfeirio’n benodol at broblemau’n ymwneud â’r system gyfrifiadurol.
“Dydi systemau technoleg gwybodaeth y gwahanol haenau ddim yn siarad efo’i gilydd,” meddai, “ac mae hyn yn creu dryswch.
“Er enghraifft, dydi meddygon teulu ddim yn gallu gweld pa rai o’u cleifion nhw sydd wedi cael apwyntiad brechu i un o’r canolfannau brechu mawr, ac mi all hynny olygu bod rhai pobl yn cael dau apwyntiad a bod brechlyn gwerthfawr yn cael ei wastraffu.
“Un enghraifft ydi hynny.”
Ychwanegodd bod problemau o’r fath wedi dod i’w sylw yn Arfon ond eu bod yn “debygol o fod yn gyffredin ar draws Cymru”.
Ymatebodd y Prif Weinidog drwy egluro ei fod yn ymwybodol o’r problemau a bod staff yn gweithio yn galed “i drio gwella pethau”.
Trefnus ac effeithiol
Ond er gwaethaf ambell broblem, dywedodd Siân Gwenllïan bod y system frechu mewn meddygfeydd lleol ac yng Nghanolfan Brailsford, Bangor, “yn drefnus ac yn effeithiol”.
“Mae nawr yn hollbwysig fod pobl yn parhau’n amyneddgar ac yn aros eu tro i gael eu galw am frechiad,” meddai.
Dywedodd ei bod yn deall fod pobl yn rhwystredig a’i bod wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ddarparu rhif cyswllt penodol ar gyfer y rhai “sy’n credu eu bod wedi syrthio drwy’r rhwyd”.