Pennod newydd i Gwmni Cyfreithwyr ym Mhenygroes.

Cwmni cyfreithiol newydd, Lloyd Evans & Hughes yn penderfynu sefydlu eu swyddfa uwch ben y Llyfrgell ym Mhenygroes.

Mali Llyfni
gan Mali Llyfni

Roedd sefydlu swyddfa newydd ym Mhenygroes yn gam naturiol i gwmni cyfreithwyr  Lloyd Evans & Hughes. Mae’r ddau gyfarwyddwr yn gyfreithwyr profiadol. Yn dilyn cyfnod o weithio o gartref a’r defnydd o dechnoleg diweddaraf, daeth y ddau i’r casgliad y byddai sefydlu eu busnes cyfreithiol yn Nyffryn Nantlle yn bosibl.  Roedd datblygiadau diweddar yn Nyffryn Nantlle yn ein dennu hefyd i sefydlu busnes yn Nyffryn Nantlle ac felly , ‘pam ddim’ sefydlu ym Mhenygroes felly?

Un o’r cyfreithiwr sydd tu ôl i’r Cwmni newydd yma yw merch leol, ac sydd dal i fyw a magu ei phlant ar fferm Lleuar Fawr, Llanllyfni, yw Sara Lloyd Evans. Astudiodd Sara y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yna yng Nghaer, cyn mynd ymlaen i hyfforddi mewn cwmni cyfreithiol yn Nyffryn Clwyd. Mae Sara yn gyfreithiwr profiadol ac wedi gweithio ar draws y Gogledd.

Mae Sara yn ferch ei milltir sgwar ac yn falch iawn o’i  gwreiddiau yn Nyffryn Nantlle. Mae’n falch iawn o’r addysg dderbyniodd yn Ysgol Llanllyfni ac yna yn Ysgol Dyffryn Nantlle ac mae ganddi atgofion melys iawn o brofiadau gwych yn yr ysgol sydd wedi rhoi y sylfaen iddi yn ei gyrfa.  Mae Sara yn Gadeirydd Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Nantlle ers mis Hydref 2020.

Mae Shaun yn gyfarwyddwr yn y cwmni hefyd  ac yn byw yn Nghaernarfon. Mae yntau yn  Lywodraethwyr yn Ysgol Maesincla. Astudiodd Shaun  Troseddeg, ac yna’r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n  gweithio gyda nifer o gleientiaid ar draws Cymru a Lloegr. Mae Shaun yn arbenigwr mewn cynllunio ol-etifeddiaeth a gwarchod asedau.

Er bod y pandemig wedi galluogi nifer ohonom i weithio oddi cartref, roedd sicrhau swyddfa yng nghanol cymuned Dyffryn Nantlle yn bwysig i Sara a Shaun wrth iddynt fynd ati i sefydlu eu busnes newydd, yn enwedig wrth gofio y byddant yn cyfrannu at yr economi leol. Roedd sefydlu swyddfa uwch ben y Llyfrgell yn gwneud synnwyr felly ac mae’r ddau yn ddiolchgar iawn i Antur Nantlle ac yn benodol Robat am y gefnogaeth dderbynwyd.

Mae’r ddau yn gweld cleiantiaid yn y swyddfa ym Mhenygroes ( drwy ddilyn canllawiau cofid-19) ond hefyd yn cynnig apwyntiadau tu allan i’r swyddfa  os dymunir y cleiant.

Drwy fod yng nghanol y gymuned yn Nyffryn Nantlle, roedd y Cwmni yn awyddus iawn i gyd-weithio a busnesau lleol yr ardal, ac maent eisoes wedi gwneud hynny gan gynnwys Gringo a ddatblygodd y brand a’r Logo, Argraffwyr Dwyfor a Designer Signs. Mae Sara a Shaun yn awyddus iawn i gydweithio a rhwydweithio gyda busnesau’r dyffryn ac bydd hyn er budd pawb.

Mi fydd y ffirm yn cynnig ystod eang o wasanaethau o Ewyllysiau, Profiant, Teulu, Materion Cynhennus a Materion Llys Amddiffyn. Mae’r cwmni yn allan-oli y gwaith prynu a gwerthu tai ond mae’r gwasanaeth hwnnw hefyd drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae cysylltiad cyson ag agos rhwng y cyfreithwyr sydd yn sicrhau’r gwasanaeth gorau i’n cleientiaid… Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Lloyd Evans & Hughes, 01286 881 078 neu ewch draw i’w gwefan, www.lloydevanshughes.com  neu ei dilyn ar dudalen facebook.

Hoffai’r ddau ddiolch o galon i drigolion yr ardal am y croeso ac am eu cefnogaeth. Mae’r dyfodol yn edrych yn gyffroes iawn i gwmni Lloyd Evans & Hughes a chymuned Dyffryn Nantlle.