Gyda llawer o bobl o fewn ein cymuned heb fod mewn mannau cyhoeddus ers cyn y cyfnod clo cyntaf mae llawer iawn yn bryderus am ail ddechrau ymweld â’u hoff gaffi neu fwyty neu siop pan fydd cyfyngiadau yn caniatáu. Bwriad y prosiect yw helpu unigolion i fedru ail ymweld â lleoliadau ac i leihau’r pryder.
Yn wreiddiol, bwriad y prosiect oedd creu’r fideos ar gyfer unigolion sydd yn byw gyda Dementia ond rydym yn deall erbyn hyn y gall y fideos fod o gymorth i amrywiaeth o unigolion.
Fel ymateb i hyn rydym yn mynd ati i lunio cyfres o fideos syml ar ffurf ‘storyboard’ sydd yn dangos y prif newidiadau mewn mannau cyhoeddus ers y pandemig. Mae ein gwirfoddolwyr wedi derbyn hyfforddiant gan ‘Cymunedau Digidol Cymru’ ar gyfer creu’r fideos ond yn amlwg oherwydd y cyfyngiadau nid oes modd i ni fynd ati i fynychu lleoliadau i gael lluniau – dyna pam rydym yn galw arnoch chi, fusnesau Dyffryn Nantlle!
Mae modd gweld rhai o’r fideos sydd wedi’i gwneud fan hyn:
Beth sydd angen i chi wneud?
Y cyfan rydym ni eisiau ydi oddeutu 5 llun o fannau yn eich busnes/ gwasanaeth sydd yn dangos unrhyw newidiadau e.e. systemau unffordd, sgriniau gwarchod, mannau diheintio. Bydd ein gwirfoddolwyr ni yn mynd ati i roi’r lluniau at ei gilydd ac yn darparu troslais i’r lluniau. Byddwn hefyd yn gofyn am eich caniatâd i gael defnyddio’r lluniau. Bydd y fideos hefyd ar gael i chi fel busnes eu defnyddio felly helpwch ni i’ch helpu chi!
Byddwn hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth trigolion Dyffryn Nantlle i rannu’r galwad hwn gyda busnesau a gwasanaethau’r Dyffryn, a’u hannog i gymryd rhan.
Os ydych yn fusnes neu yn fan cyhoeddus yn Ddyffryn Nantlle mae croeso i chi fy e-bostio ar mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru neu fy ffonio ar 01286 682818 i holi unrhyw gwestiynau neu i ddanfon eich lluniau!
Noder, mae copïau papur hefyd ar gael o bob fideo. I dderbyn copi papur, cysylltwch â’r rhif uchod.